Tudalen:Teithiau a Helyntion Meurig Ebrill.pdf/9

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

rhoddi fy nhraed ar y Pierhead, pwy, meddwch chwi, oedd yn fy nerbyn yno, ond fy mab Morris, Dywedais wrtho, Fy mab, ti ddaethost mewn amser da, yr oeddwn bron a digaloni, yn dlawd tost, cyn dy weled ti. Cymerodd ran o fy maich, ac arweiniodd fi i letty cysurus, yn Pall Mall, meddau ef; gan fy mod mor flinedig, a'i dŷ yntau mor bell, dymunais gael llettya yn agos ir Pierhead, ac wedi myned i'r tŷ a chael lluniaeth ac ymgysuro gronyn, cyfarwyddwyd fi i ystafell wely oedd ar cenawr uchel. Cysgais ychydig, a deffroais ryw bryd yn y nos, a dechreuais feddwl yn mha le yr oeddwn, cofiais i fy mab ddweyd mai Pall Mall oedd enw y lle yma, yna dechreuodd yr awen adfywio gronyn, a gwnaethym yr englyn canlynol yn ddioedi, llyraa ef:— Llettya mewn lle tawel, a wnaethym Yn eithaf diogel; Mewn plu mân, yn min Pel Mel, Ar iachus nenawr uchel. Ond cofiais yn y fan i mi glywed lawer gwaith cyn hyny, mai hen heol ddrewllyd a phuteinllyd dost oedd Pall Mall, a gwnaethum y ddau englyn canlynol yn ddioedi fel hyn:——

Yn ŵr dewr, pan wawrio'r dydd,—y boreu
Heb aros yn llonydd,
Mi godaf, rhedaf, a rhydd
Yr hwyliaf drwy'r heolydd.

Af at fy mab, lle caf gaban—gonest,
Ac amgenach trigfan;
Mae'n llawn pryd, o fawlyd fan
Drewllyd, i mi droi allan.

Pan wawriodd y boreu, prysurais godi o'r gwely, a daethum i lawr ar ffrwst, ac wedi i mi dorymprydio, cyflogais ryw Sais i gludo fy ysgrepan,ac i'm cyfarwyddo i Bedford Street, Toxteth Park, lle yr oedd fy mab yn cartrefu; ond pan ddaethom allan i'r heol, dyma drwst dychrynadwy i'w glywed, gan gertwyni, a cherbydau yn chwyrnellu, nes yr oedd y palmentydd yn gwreichioni, a'r gyrwyr yn llawn mor ynfyd a Jehu, hen lofrydd y wraig felldigedig hòno gynt, sef Jese—