AT Y DARLLENYDD.
YN ystod y blynyddau a fu, yr wyf wedi anturio cynyg dau neu dri o lyfrynau bychain i sylw fy nghenedl a'm gwlad. Cawsant dderbyniad caredig, gan y wasg, a chan y cyhoedd yn gyffredinol. Nid wyf heb wybod am eu diffygion; ond y mae'n dda genyf ddeall ddarfod iddynt fod yn gymhorth i ddwyn "Awel a Heulwen" i ambell feddwl, a bod aml i ddarllenydd o dir neillduaeth wedi eu cael yn fantais i anghofio ei amgylchoedd, ac i dreulio "Oriau," fel yn nyddiau mebyd, yn y "Wlad."
Y tro hwn, yr wyf yn cyflwyno iddynt lyfr arall, mewn ffurf wahanol. Llyfr o ganeuon ydyw. Nid oes awdl na phryddest, cywydd nac englyn, o'i fewn—dim ond caneuon. Ac nid oes yr un o honynt yn gynyrch "buddugol," neu yn "gân arobryn." Ni fuont mewn unrhyw eisteddfod na chyfarfod llenyddol; oherwydd paham ni enillasant gadair na choron, tlŵs aur neu fathodyn arian. Cawsant eu bod—hwyrach y buasai'n burion iddynt beidio bod o gwbl—ond y mae'n rhy ddiweddar i atal yr aflwydd hwnnw,—cawsant eu bod, nid ar orchymyn na chymhelliad allanol, ond fel mynegiad i deimladau personol fu yn croni yn fy mynwes ar wahanol adegau yn fy mywyd.
Byddai yn rhyfyg ynof i ddweyd nemawr am fy ymyriad a barddoniaeth; ond nid wyf yn cofio adeg pan nad oeddwn yn hoffi cân, ac y mae talm o amser weithian, er pan geisiais odli llinellau ar