destynau o fewn fy nghyrhaedd. Ac wrth fwrw golwg dros y caneuon hyn y mae llawer golygfa, llawer ymsyniad llon a lleddf yn adgyfodi ger fy mron. Bid sicr, nid yw hyn yn meddu unrhyw ddyddordeb na phwysigrwydd i neb arall o dan yr haul; ond yr wyf yn enwi y peth, am mai rhywbeth o'r fath a fu'n achlysur i alw y caneuon hyn i fod. Y mae gan bob un ryw fymryn o hanes personol. Golygfa mewn natur: rhyw gyffyrddiad damweiniol,—os damweiniol, hefyd, yn cyffroi tannau y galon, a minnau, ar y pryd, yn ceisio benthyca iaith ac ymadrodd i gadw y drafodaeth rhag mynd ar goll.
Bum yn petruso gryn lawer yn nghylch y modd goreu i gyfleu y caneuon hyn yn y llyfr. A oedd rhyw drefn a dosbarth yn perthynt iddynt? A ellid canfod rhyw unoliaeth yn mysg y pentwr? Nid oeddwn yn gallu dygymod a'r syniad o argraffu cyfres o ganeuon hollol amherthynasol.
Wedi meddwl goreu y gallwn ar y mater, tybiais ddarfod i mi fod yn gwrando pedair telyn yn ystod fy oes. Telyn Anian—dyna un. Clywais ei halawon hi yn Nyffryn Edeyrnion, ar lannau llyn Tegid, yn nghanol aruthredd yr Eryri, ac mewn llawer cwm a dol, yn ystod fy mhererindod. Telyn Adgof oedd y llall. Y mae seiniau honno wedi bod yn disgyn yn fynych ar fy nghlust, yn enwedig yn y blynyddau diweddaf. Yr oedd ei nodau yn lleddf, lawer pryd, ond yr oeddynt yn felus, yn fwyn. Llonyddwyd fy ysbryd, lawer nos Sabboth yn y wlad, pan fyddai y gwynt yn galarnadu yn y coed, gan delyn adgof. Ac wrth wrando, yr oedd y meddwl yn ceisio dehongli yr iaith. A lwyddais i letya angylion, ac i ddal rhai o ysbrydion y gerdd? Nis gwn. Telyn fy Ngwlad, oedd y dryd-