<poem> edd. Hoffwn wrande hon. Dan gyfaredd ei nodau hi, gwelais arwyr y dyddiau gynt yn trefnu eu byddinoedd: clywais gri rhyfeloedd, ac alawon hedd. Gwelais Gymru'n deffro, yn ymysgwyd o'r llwch, ac yn cerdded i'r dyfodol dan faner rhyddid, gwybodaeth, a moes. Y mae hon yn un o delynau mawr barddoniaeth Cymru, a phrif-feirdd yr oesau wedi bod yn dirgorynnu ei thannau godidog. Ond dichon y caniateir i feirdd bychain ddweyd gyda'r Apostol gynt,-"Ni pherffeithir hwy hebom ninnau, hefyd." Y mae cornant y Berwyn, â'r Ddyfrdwy enwog, yn cynganeddu ar eu hymdaith tua'r môr. Telyn y Cysegr-dyna'r olaf. Dyna'r delyn aur. Yr wyf wedi ei gwrando yn foddhaus ar ei hemynau per. "Swn mwy hoff a swn mwy hyfryd" a glywais ynddi, nac a feddai'r byd o'r bron. Amcenais lawer nos Sul, wedi i waith y dydd fynd drosodd, geisio canu gyda'r delyn" hon. Ond yr oedd pob llinell a phennill yn dweyd yn eu hiaith, "Nid wyf deilwng": ac yn efelychu lleisiau'r greadigaeth yn emyn Pantycelyn, "yn distewi a mynd yn fud." Dyna y rheswm fod yr adran hon yn y llyfr yn cynwys llai o ganeuon na'r rhanau eraill. Nid wyf yn bwrw ddarfod i mi gael gafael ar delyn'anian, neu delyn adgof: ond y mae rhywbeth yn y telynau hyn sydd yn peri i ddyn deimlo yn fwy hyderus, ac yn barotach i geisio cyfieithu yr alawon i iaith ei fynwes ei hun. Yr Y mae beirdd a barddoniaeth newydd wedi ym- ddangos yn Nghymru er yr adeg y bum i, ac eraill, fel bugail Aberdyfi, yn ceisio canu cân." ydym yn cael ein harwain i froydd goludog, ac i gymdeithas gweledigaethau mawrion a dieithr Ond dichon fod lle eto i ambell i gân seml. Nis gellir darllen Miltwn bob amser. A chredaf fod
Tudalen:Telyn Bywyd.djvu/13
Gwedd