Pa faint yw gorfoledd a chyson iachuswedd,
Cael yn brid, er llymder llid, addewid ddiddiwedd;
Trowch heibio'r athrawiaeth, sef gwrthodedigaeth,
Sy'n llawn o gamsyniaeth hir fariaeth i fyw,
Yn nodi pob diffyg yn ddirmyg ar Dduw;
Awn oll o Sodoma, gwae mawr, a Gomora,
Mae Soar bach, eto'n iach, yn gilfach ddiogelfa;
Gochelwn ymroad ar un rhan o'r gwastad,
Ond cadw'n ddiattaliad ymlyniad yn mlaen,
Rhag myn'd i'r un dymer, hir chwerwder, a Chain.
A chan fod yr alwad yn dywad yn deg,
Rhown osteg gan ystyr i ddilyn y llwybr
Sy'n arwain i'r bywyd iawn oglyd yn eglur,
Can's heddyw mae neithior ein Pôr mawr a'n parch,
Ei gyfarch sy'n gofyn ei ddeiliaid i'w ddilyn
Yn ngwisg y briodas iawn urddas i'n harddyn;
Ei fwrdd ef a gawn, yn bur lawn, o wobr y wledd,
Y manna dymunol tra maethol a medd;
Os bydd ryw rai'n pallu gan nych, neu'n gwanychu,
Ni gawn win yn ein min, yn wyrthiol, i'n nerthu;
Mae pob peth yn barod, a Christ ini'n dannod,
Ein bod ni yn ei wrthod—mae'n bechod o bwys,
Dibrisio hael gynyg ein Meddyg, un mwys:
Wel frodyr hwyrfrydig, sy'n oesi'n wrthnysig,
Heb wel'd mor bur, a theimlo cur, ein Awdur poenedig,
Mae'n bryd i ni ddeffro, a dewrwych ystyrio,
Gochelwn hŵy huno tra dalio lliw'n dydd,
Rhag ofn ini, wrth hyny, y fory na fydd.
—RICHARD JONES, neu, Gwyndaf Eryri.
CAROL 6.
Mesur—YMADAWIAD Y BRENIN.
I GADW gwyliau yn un galon,
Nid o fwriad hen arferion;
Mewn meddwl gonest de'wn i ganu,
Fawl Nadolig fel gwir deulu:
Mae côr y Nef yn gorfoleddu,