Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Telyn Seion sef Pedwar ar Bymtheg o Garolau Nadolig.djvu/18

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Nid allai'r haul mor edrych arno
Yn ei boenau heb g'wilyddio;
Nid allai'r ddaear lawr mor dyodde',
Heb grynu o ddychryn pan ymada'!
Nid allai seiliau'r byd ond siglo,
Pan oedd pechodau'n pwyso arno,
Gan wyro ei wedd i borth y bedd,
I orwedd mewn amdo;
Ond er ei weled yno a'i wylio,
'Roedd yr agoriad ganddo i'w gario;
Nid allodd Uffern mo'i garcharu,
Nid allodd bedd mo'i ddal i bydru,
Cyfodai'n rhydd y trydydd dydd,
Mae sicrwydd o hyny,—
Fel na cha'i Thomas ei anghredu,
Ca'dd roddi ei fŷs yn ystlys Iesu!

Gan adgyfodi o'r Pen yn gynta',
Fe adgyfodir yr aeloda';
Bydd adgyfodiad cyffredinol
I bob achau, graddau, gwreiddiol:
Pan gan udgorn mawr y Nefoedd,
Fe gwyd y meirw o dir a moroedd
Cyfodi raid o'r llwch a'r llaid,
Daw'r enaid a ymranodd
Yn ol i'r corph, yr hwn a'i cariodd,
I gyd deyrnasu heb derfyn oesoedd;
Duw ei hunan a'n dihuno,
I gyflwr parod i ympirio,
Pan ddel efe ar gymylau'r ne',
Boed ini le ynddo,
A gwledd i'r enaid Iesu a rano,
Amen, Amen, a Duw a'i myno.

—H. W.