Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Telyn Seion sef Pedwar ar Bymtheg o Garolau Nadolig.djvu/39

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Pregethir yr efengyl ar
Y ddaiar, i'r holl wythau.
Nid ar y tywod mae ei sail;
Nid yw hi adail 'sigwael, egwan;
Ond cenadwri a'i sail yn gref
O'i enau ef ei hunan,
"Gan imi wisgo'r ddynol natur
Pregethwch yr efengyl wiwbur
Nes y credo pob creadur;
Ewch, ewch, yn brysur mae'n iawn bryd,
I'r parthau draw a'm Haberth drud."
"Gan fod y Silo wedi dyfod,
Na fydded neb heb ei adnabod
Sydd heddyw'n oesi ar y ddaear isod:
Ef, er ei glod, fo'n bod yn Ben,
I'n huno mwy yn Nuw, Amen.
 
—HUGH HUGHES, (H. Tegai.)

CAROL 15.

Mesur—DIFYRWCH GWYR ABERFFRAW.

CYD-GANED dynoliaeth am ddydd gwaredigaeth,
Daeth trefn rhagluniaeth i'r goleuni,
A chân Haleluia o fawl i'r Gorucha',
Messia Judea heb dewi:
Molianwn o lawenydd, gwir ydyw bod Gwaredydd,
Fe anwyd Ceidwad ini, sef Crist y Brenin Iesu,
Cyn dydd, cyn dydd, yn Meth'lem yn ddi gudd,
Y caed Gwaredydd ar foreuddydd, O wele ddedwydd ddydd.

Caed Iesu mewn preseb, Duw Tad Tragywyddoldeb,
Yn ol y ddiareb o'i herwydd;
Haul Mawr y Cyfiawnder yn myd y gorthrymder,
Yn faban bach tyner mewn tywydd;
Hwn Ydwyf, yr Hwn Ydwyf, yn sugno bronau'r wyryf,
Gwir Awdwr pob rhyw anian tan adwyth hin ardd Eden,
Y Gair, y Gair yn gnawd, ar liniau Mair,
A chilwg Pharoah yn gosod arno i'w buro yn y pair.