Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Telyn Seion sef Pedwar ar Bymtheg o Garolau Nadolig.djvu/41

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Nid marw wnaeth Silo wrth gael ei groeshoelio,
A myn'd i dir ango' trwy ingoedd;
'Roedd ganddo ef allu roi'i ysbryd i fynu,
A'i gym'ryd wnai'r Iesu, ni rosodd.
Daeth Iesu, Craig yr Oesoedd, fel ufudd was o'r nefoedd,
Disgynodd o'r uchelder i barthau isa'r ddaear;
Mewn bedd, mewn bedd ni wywodd dim o'i wedd,
Ond adgyfodi ddarfu'r Iesu 'nol claddu angau cledd.
 
Er ymdrech rhaglawiaid, a gofal milwriaid,
Er gwaetha'r holl geidwaid fe gododd;
Y maen, wedi'i selio, a gafodd ei dreiglo,
A phawb oedd yn gwylio a giliodd:
Fe dalodd yr holl ddyled dros ferch yr hen Amoriad,
A chroesi y biliau, dileu'r ordinhadau;—
O byrth, O byrth, dyrchefwch gyda'r gwyrth,
Ma'r Brenin Iesu yn d'od i fynu—gwaith synu, byth ni syrth.

Yr Aberth trag'wyddol yn awr sydd yn eiriol,
Trwy rinwedd gwaed dwyfol caed afon,
A darddodd yn dechreu o ochr ein Meichiau,
Ar fynydd Golgotha, rhwng caethion.
Mae afon goch Calfaria yn canu'r Ethiop dua',
Mor wyn a'r eira ar Eryri, heb frychau chwaith na chrych.
Trwy'r gwaed, trwy'r gwaed digonol Iawn a gaed,
I gadw'r heintus a'r gwahan—glwyfus yn drefnus ar eu traed.

Defnyddiwn ein breintiau, mae perygl o'n holau,
Cyn delo dydd angau diangwn;
Mae heddyw'n ddydd cymmod, a'r swper yn barod,
A'r bwrdd wedi'i osod—O brysiwn:
Mae'r dwylaw fu tan hoelion yn derbyn plant afradlon,
I wlad y Ganaan nefol, i wledda yn drag'wyddol.
Amen, Amen, O moliant byth, Amen,
Haleluia i'r Messia sy'n maddeu byth, Amen.