Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Telyn Seion sef Pedwar ar Bymtheg o Garolau Nadolig.djvu/42

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

CAROL 16.

Mesur—DUW GADWO'R FRENHINES.

DEFFROWN, Deffrown i ganu'n ffraeth,
Gan gofio'r dydd a'r awr y daeth i'n Feddyg da;
Mae gwedi ei eni gyda'r wawr,
Fel dygai luoedd daear lawr o'u blinfawr bla.
Rhyfeddod rhyfeddodau'r byd,
Oedd gwel'd, ar gyfer hyn o bryd,
Hwn gyda Mair yn faban mud—rhow'n iddo'r mawl;
Pan anwyd ef, fendigaid Iôr,
Meddiannydd pob—peth yw ein Pôr,
I'w foli daeth angylaidd gôr o fro y gwawl.

Clodforwn ninau'r Meddyg mawr,
Yr hwn o'i lwyr—fodd ddaeth i lawr o'i nefol lys;
Ac er ei eni o forwyn dlawd,
Mae ini'n Frenin ac yn Frawd,—awn ato ar frys.
Gwrthrychau cariad lesu cu
Oedd dynion, ar y ddaear ddu:
Fe gedwir tyrfa, mae o'n tu, rhag distryw tân.
Ac ni chymerodd Iesu mawr
Naturiaeth engyl—maent yn awr
Fel ag y bwriwyd hwy i lawr o'r nefoedd lân.

Bu fyw yn addfwyn dan y nef;
Hosanna! boed i'w foliant ef orlenwi'r tir.
Ac ar y ddaear hon pan ddaeth,
Ffordd i'n dwyn ni o'r carchar caeth a wnaeth yn wir;
Awn ato ef, fe wrendy'n cwyn,
Mae wedi marw er ein mwyn,
Ac felly fe wnaeth ffordd i'n dwyn i hedd â'i Dad:
Er iddo farw, 'nawr mae'n fyw,
Yn eiriol ar ddeheulaw Duw,
Ac am a wnaeth i ni, fe glyw rhai yn mhob gwlad.

Bydd son am eni'r Iesu mawr
O dan ei lwydd drwy'r ddaear lawr—mae'n myn'd ar led,
A son am ddyoddefiadu'i oes,
Ac fel bu farw ar y groes:—Rhown ynddo gred.