Gwirwyd y dudalen hon
Y gwylain yw ei cheraint,
A'r draethell ei hystad;
Ond gorau gan ei chalon
Yw cwch pysgota'i thad;
Aml dro yn ei mabandod
Y cwch fu iddi'n grud;
Y tonnau yn ei siglo,
A minnau'n wyn fy myd.
Liw nos, pan fwy' yn cychwyn
I gynnull maes y don,
Bydd Meinir ger y caban,
A'i grudd mor wen a'i bron:
Un ofnus yw ei chalon,
A chas yw ganddi'r trai;
Nis gall, medd hi, ei garu,
Heb garu'i thad yn llai.
Ond pan fo 'nghwch yn dychwel,
Liw dydd, at Graig y Llam,
Bydd Meinir yn fy nisgwyl,
A'i gwên fel gwên ei mam;
A beth mor fwyn a'i chroeso,
Ar ôl y cyfnos hir?
Mae 'mherl yn caru'r llanw,
Mae'n dwyn ei thad i dir.