Tudalen:Telynegion Maes a Mor.djvu/111

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Mae'n werth troi'n alltud ambell dro
A mynd o Gymru fach ymhell,
Er mwyn cael dod i Gymru'n ôl,
A medru caru Cymru'n well.

IX.


Goris y llanw
Mae dinas fud,
Cantref y Gwaelod
A'i lledrith dud;
Caerog brifddinas
Y dwfn yw hon,
A brenin ei llys
Yw Dylan eil Don.

Neuaddau saffir
Sydd iddi hi,
A gerddi o ros
A meillion y lli;
Hyd ei heolydd
Y gwmon dardd,
A iarllod y môr
A'u rhiannedd chwardd.

Ambell fin nos,
Ar berlewyg byd,
Clywir ei chlychau'n
Canu ynghyd;
Clychau soniarus
Nas clybu dyn
Eu mwynach erioed,
Mewn llesmair na hun.