Tudalen:Telynegion Maes a Mor.djvu/112

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Glasnef y cwmwd
Yw'r môr uwchben,
Cysgod y llongau'n
Gymylau'i nen;
Tlws yw yr ieuainc
A'r hen i gyd,
Yng Nghantref y Gwaelod,
Y ddinas fud.

X.


Saif henuriad wrth y môr,
Neilltuedig broffwyd Iôr,
Gyda gwallt mor wyn â'r gwlân,
Gyda llygaid fel y tân —
Ei ddoethineb fel ei ddydd,
A'i welediad fel ei ffydd.

Gwêl y dilyw dwfr ar daen,
Fel yn toi y môr o'i flaen;
Yntau ysgrifenna i lawr,
Niegis un a wêl y wawr —
'Fel y llanw, yn ei bryd,
Taen Cyfiawnder tros y byd."

Gwêl y traethau'n mynd yn llai,
Ac yn darfod—blant y trai;
Yntau ysgrifenna i lawr,
Megis un a wêl y wawr —
"Derfydd cyfundraethau dyn,
A Gwirionedd fydd yn un."