Tudalen:Telynegion Maes a Mor.djvu/125

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"OCHAIN Y CIWYFAWG."

MOES ddafn o'r gostrel, gymrawd,
Mi wn mai marw'r wyf,
Gan fel y syrth bargodion
Fy nghalon o fy nghlwyf;
Mae 'ngwefus fel y marwor,
Ond heno, dan y lloer,
Hi fydd mor wen â'r barrug,
A'r lloergan arni'n oer.

Fy nghymrawd, fy hen gymrawd —
Cydymaith llawer cad
O gas at fradwyr Cymru,
O serch at lyw a gwlad —
Bydd un yn llai yfory
Yn ymladd gyda thi;
Ac un yn llai dros Gymru —
Beth ddaw ohoni hi?

Ond cyn dy ollwng, gymrawd,
A chyn im ganu'n iach,
Am byth! —gofynnaf gennyt
Ryw un gymwynas fach;
A gwn na wnei warafun
Cyn lleied peth —i un
Sy'n marw wrth ei ofyn,
Ymhell o'i fro ei hun.