Tudalen:Telynegion Maes a Mor.djvu/19

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

LLAWHAIARN BENDEFIG.

 
GWRANDAWEM riddfaniad y deri,
Gwrandawem ystori fy nhad —
“Boed melltith ar Gastell Llawhaiarn,
A'r felltith yn fendith i'w had!”
Boed melltith,” griddfannai y deri,
Ail-gofiai y nefoedd y cam;
Yn llygad fy nhad yr oedd mellten,
Ond lleithio'r oedd llygad fy mam.

"Fy mhlant," meddai, “dyma ystori
Yr anghyfanedd-dra a wnaed ;
Hyd heddiw mae cofio yr ormes
A'r adfyd yn poethi fy ngwaed ;
Os wyf yn oedrannus a musgrell,
Nid wyf mor anghofus a hyn,
Nad wn i pa bryd y dechreuodd
Fy marf a fy ngwallt droi yn wyn.

Adwaenoch y goedwig helwriaeth
Ymestyn i'r mynydd o'r cwm;
Un waith yr oedd honno'n dyddyndir,
A chernau y mynydd yn llwm:
Nid oedd y tyddynod ond bychain,
A gwyrog gan oedran, ond O!
Yr oent yn dreftadaeth i rywrai,
A cherid y brwyn ar eu to.

"Yn fore llafuriai'r tyddynwyr,
Gan dyfu eu gwenith a'u haidd ;
A'u chwiban a glywid o'r mynydd,
Fin nos, wrth gorlannu eu praidd;

Nodyn:Div ends