Tudalen:Telynegion Maes a Mor.djvu/35

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

GWỆN Y MARW.

I'r ystafell aem yn ddistaw,
Un ac un,
Heb ddywedyd dim i dorri
Ar ei hun.

Yno llaw amddifad blentyn,
Tan ei graith,
Dynnai'r caead a'r llieiniau'r
Olaf waith.

Gwelem tanynt mewn tangnefedd
Wyneb tad;
Syllem, synnem ar ei degwch,
Heb nacâd.

Wylai'r ieuainc gan y dwyster,
Wylai'r hen;
Ar wynepryd un yn unig
Yr oedd gwên.

Cannaid weddnewidiad angau
Ydoedd hi;
Gwên arhosai i oleuo'n
Gofid ni.

Gwyn eu byd y llygaid hynny
Oedd ynghau;
Tlws gan wawrddydd anfarwoldeb
Oedd y ddau.

Fyrred, ac mor ddiflanedig
Gwên y byw;
Gwên yr arch-gwên olaf, hwyaf,
Bywyd yw.