Tudalen:Telynegion Maes a Mor.djvu/34

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

CREDO.

Yn Ei nef mae Duw —
Yn y golau cannaid,
Pur, nad eill seraffiaid
Ddyfod ato a byw.

Yno'n wyn Ei fyd,
Clyw berffeithgan engyl
Rhwng y pyrth o beryl,
Clyw riddfannau'r byd.

Ie, i lygaid Duw
Nid oes dim rhy fychan —
Gwêl y cread cyfan,
Gwel fy meddwl briw.

Mwy na'i Orsedd fawr
Yw Ei galon dyner ;
Trig y goruchelder,
Gŵyr am lwch y llawr.

Yn Ei nef mae Duw,
Eto ca y cydfyd
Le yn Ei feddylfryd —
Onid cariad yw?