Tudalen:Telynegion Maes a Mor.djvu/44

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Tyf y palm yn Deffrobani,
A phob prydferth bren;
Haf o hyd sydd yn ei llwyni—
Gwna'r adduned, Men
Pe na bai o fewn yr ynys
Neb ond ni ein dau,
Byddet ti a minnau'n hapus,
'Fory—paid nacáu.