Gwirwyd y dudalen hon
CYNNIG CALON.
CYMER hi'n drysor,
A chadw hi;
Ceisiaf wneud hebddi,
Os boddiaf di.
Cymer hi'n galon
Gyfan, fy mun;
Ni fynnwn hanner
Calon fy hun.
Cymer hi'n degan —
Ond, gwybydd hyn:
Gall chwarae ei thorri,
Ond aur nis pryn.
Cymer hi'n unig,
Na chais ddim mwy;
Ni chydfydd calon
Yn un o ddwy.
Anfon dy hen un
Ar ffair, da thi;
Gwna'r galon honno
Y tro i mi.