Tudalen:Telynegion Maes a Mor.djvu/62

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

HIRAETH.

GYDA'R tes eleni eto,
Galw wnaethost, alltud fach;
Dyfod ar dy aden heibio,
Cyfarch gwell a chanu'n iach.

Dyna wnei ar hyd y blwyddi,
Fel aderyn glas yr haf;
Trydar ennyd i fy llonni,
Yna 'ngado'n fwyfwy claf.

Nid wy'n cofio dydd croesawu,
Nac yn cofio dydd mwynhau,
Heb fod bore'r ymwahanu'n
Taenu’i gysgod dros y ddau.

Oni fuom fwy na digon
Yn dy ddanfon i dy daith?
Onid yw fy nghalon wirion
Am bob tro yn dwyn ei chraith?

Dywed im, pa bryd y deui
Yma i aros, alltud fach?
Pryd y deui i orffwyso —
Cyfarch gwell heb ganu'n iach?