Tudalen:Telynegion Maes a Mor.djvu/68

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Wyt Ionawr yn oer,
A’th farrug yn wyn;
Ac ni fedd pawb aelwyd
Ar hin fel hyn;
Mae rhywrai heb dý,
A rhywrai heb dân,
A rhywrai heb fara,
Na chwsg, na chân.