Tudalen:Telynegion Maes a Mor.djvu/74

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

MAI.

Gwn ei ddyfod, fis y mêl,
Gyda'i firi yn yr helyg,
Gyda'i flodau fel y barrug —
Gwyn fy myd bob tro y dêl.

Eis yn fore tua'r waen,
Er mwyn gweld y gwlith ar wasgar,
Ond yr oedd y gwersyll cynnar
Wedi codi o fy mlaen.

Eistedd wnes tan brennau'r Glog,
Ar ddyfodiad y deheuwynt;
Edn glas ddisgynnodd arnynt
Gan barablu enw'r gog.

Ni rois gam ar lawr y wig
Heb fod clychau'r haf o țano,
Fel diferion o ryw lasfro
Wedi disgyn rhwng y brig.

Gwn ei ddyfod, fis y mêl,
Gyda'i firi, gyda'i flodau,
Gyda dydd fy ngeni innau —
Gwyn fy myd bob tro y dêl.