Tudalen:Telynegion Maes a Mor.djvu/75

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

MEHEFIN.

I.


MELYS rhodianna
Hyd faes Mehefin,
Pan ddychwel rhegen
Yr ŷd i'w chynefin;
Melys lluestu
Tan onn a bedwen,
Pan fo'r dail fel cwmwl
Rhwng gallt ac wybren.

Melyn yw'r banadl
Ar draeth y Laslyn,
Teсed ag enfys
Ar lawr y dyffryn;
Cyfyd y llinos
Ei thŷ'n yr eithin;
A deffry uchedydd
Ym mrwyn Mehefin.

Nwyfus gan fywyd
Yw nant ac awel,
O wawr ar fynydd,
Hyd hwyr yr orwel;
Gwrendy y weirglodd
Am lais y bladur,
A phrennau y berllan
Nid ydynt segur.

Eirin ar lwyni,
A phlant yn chwerthin;
Pa fis ddifyrred
A mis Mehefin?
Cynnes ei hirddydd,
A mwyn ei lasdon;
Hoffus ei enw
Ar fin cariadon.