Gwirwyd y dudalen hon
II.
Onid yw'r caeau yn wyrdd, yn wyrdd,
A melyn eithin
Tan haul Mehefin
Hyd fin afonydd a min y ffyrdd?
Onid yw'r suon yn fwyn, yn fwyn, —
A beth mor dirion
A thrydar cywion
O bebyll adar yng nghoed y llwyn?
Onid yw'r wennol, fu c'yd ar ffo,
Yn ei chynefin
Yn nhes Mehefin,
Wedi anghofio fod tecach bro?
Onid yw'r blodau yn hardd, yn hardd,
Yn y gwelyau —
Ar frig y prennau —
A’u harogl esmwyth yn llenwi'r ardd?
Onid yw'r ddaear i gyd, i gyd,
Fel pe yn chwerthin
Tan haul Mehefin, —
A phwy chwenychai ddifyrrach byd?
Mae'r fro'n llifeirio o gân a mêl,
Y bardd mewn breuddwyd
Am ardd a gollwyd,
A Duw ym mhopeth i'r sawl a wêl.
.