Tudalen:Telynegion Maes a Mor.djvu/92

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

YSTYRIWCH Y LILI.

(Ymson haf ar fin llyn y Garreg Wen.)

O, LILI'R dyfroedd —eiry'r llyn —
Bob haf, yn nwfr y gilfach hon,
Mor dlws yw'th bluen fechan, gryn
Heb doddi yn yr haul na'r don.

Y lariaidd wawr i'th ddeffro ddaw
I dreulio hirddydd ar ei hyd
Yn syllu ar lyn y sêr uwchlaw,
Fel un yn gweld tawelach byd.

Cyn nos, dy lygad gaei'n dynn,
Ac yn dy galon rhagddi hi
Y cedwi'r dydd mewn purdeb gwyn —
Nid oes na lloer na sêr i ti.

O, lili fechan! mae yn syn —
Yn syn dy weld, mewn byd mor ddu,
Yn dyfod allan yn dy wyn —
Ai angel yn dy blannu fu?

Mae'r llyn yn dywyll ar ei hyd,
Wyt tithau yn ei ganol ef,
Fel enaid sant wrth newid byd,
I lif y dŵr yn tynnu'r nef.

Ar frys daearol, pa sawl un
Aeth heibio i ti er y wawr,
Heb gofio am na Duw na dyn,
Heb feddwl ond meddyliau'r awr?