Tudalen:Telynegion Maes a Mor.djvu/94

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

CYFARCH Y LLINOS.

(I blant fy mro.)

CANAI llinos benddu'r eithin
Neithiwr, ar y Morfa Mawr;
Uwch ei haelwyd fach o fwsog,
Gyda'i Chrewr yn wrandawr;
Beth mor bêr a chân aderyn,
Pan fo'r haf yn glasu'r byd?
Beth mor bur a serch aderyn,
Pan fo'r Morfa'n aur i gyd?

Ewch, fy mhlant, i wrando'r llinos,
Ond na thorrwch ar ei chân;
Ac na thorrwch galon llinos —
Na rowch dŷ y dlos ar dân:
O, fy mhlant, pe baech yn gwybod
Fel gall llinos garu'i nyth,
Gwn nad aech ag wy ohono,
Gwn na thynnech m'ono byth.