Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Testament Newydd (1894).djvu/10

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

canys hwy a gânt drugaredd.

8 Gwỳn eu byd y rhai pur o galon: canys hwy a welant Dduw.

9 Gwỳn eu byd y tangnefeddwyr: canys hwy a elwir yn blant i Dduw.

10 Gwỳn eu byd y rhai a erlidir o achos cyfiawnder: canys eiddynt yw teyrnas nefoedd.

11 Gwỳn eich byd pan y'ch gwaradwyddant, ac y'ch erlidiant, ac y dywedant bob drygair yn eich erbyn er fy mwyn i, a hwy yn gelwyddog.

12 Byddwch lawen a hyfryd: canys mawr yw eich gwobr yn y nefoedd: oblegid felly yr erlidiasant hwy y prophwydi a fu o'ch blaen chwi.

13 ¶ Chwi yw halen y ddaear: eithr o diflasodd yr halen, â pha beth yr helltir ef? ni thâl efe mwy ddim ond i'w fwrw allan, a'i sathru gan ddynion.

14 Chwi yw goleuni y byd. Dinas a osodir ar fryn, ni ellir ei chuddio.

15 Ac ni oleuant ganwyll, a'i dodi dan lestr, ond mewn canhwyllbren; a hi a oleua i bawb sydd yn y tŷ.

16 Llewyrched felly eich goleuni ger bron dynion, fel y gwelont eich gweithredoedd da chwi, ac y gogoneddont eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd.

17 ¶ Na thybiwch fy nyfod i dorri y gyfraith, neu y prophwydi: ni ddeuthum i dorri, ond i gyflawni.

18 Canys yn wir meddaf i chwi, Hyd onid êl y nef a'r ddaear heibio, nid â un iod nac un tippyn o'r gyfraith heibio, hyd oni chwblhâer oll.

19 Pwy bynnag gan hynny a dorro un o'r gorchymynion lleiaf hyn, ac a ddysgo i ddynion felly, lleiaf y gelwir ef yn nheyrnas nefoedd: ond pwy bynnag a'u gwnelo, ac a'u dysgo i eraill, hwn a elwir yn fawr yn nheyrnas nefoedd.

20 Canys meddaf i chwi, Oni bydd eich cyfiawnder yn helaethach na chyfiawnder yr ysgrifenyddion a'r Phariseaid, nid ewch i mewn i deyrnas nefoedd.

21 Clywsoch ddywedyd gan y rhai gynt, Na ladd; a phwy bynnag a laddo, euog fydd o farn:

22 Eithr yr ydwyf fi yn dywedyd i chwi, Pob un a ddigio wrth ei frawd heb ystyr, a fydd enog o farn: a phwy bynnag a ddywedo wrth ei frawd, Raca, a fydd euog o gynghor: a phwy bynnag a ddywedo, Oynfyd, a fydd euog o dân uffern.

23 Gan hynny, os dygi dy rodd i'r allor, ac yno dyfod i'th gof fod gan dy frawd ddim yn dy erbyn;

24 Gâd yno dy rodd ger bron yr allor, a dos ymaith: yn gyntaf cymmoder di a'th frawd, ac yna tyred ac offrwm dy rodd.

25 Cyttuna a'th wrthwynebwr ar frys, tra fyddech ar y ffordd gyd âg ef; rhag un amser i'th wrthwynebwr dy roddi di yn llaw y barnwr, ac i'r barnwr dy roddi at y swyddog, a'th daflu y'ngharchar.

26 Yn wir meddaf i ti, Ni ddeui di allan oddi yno, hyd oni thalech y ffyrling eithaf.

27 ¶ Clywsoch ddywedyd gan y rhai gynt, Na wna odineb:

28 Eithr yr ydwyf fi yn dywedyd i chwi, fod pob un a'r sydd yn edrych ar wraig i'w chwennychu hi, wedi