Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Testament Newydd (1894).djvu/11

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gwneuthur eisoes odineb â hi yn ei galon.

29 Ac os dy lygad dehau a'th rwystra, tyn ef allan, a thafl oddi wrthyt: canys da i ti golli un o'th aelodau, ac na thafler dy holl gorph i uffern.

30 Ac os dy law ddehau a'th rwystra, torr hi ymaith, a thafl oddi wrthyt: canys da i ti golli un o'th aelodau, ac na thafler dy holl gorph i uffern.

31 A dywedwyd, Pwy bynnag a ollyngo ymaith ei wraig, rhoed iddi lythyr ysgar:

32 Ond yr ydwyf fi yn dywedyd i chwi, fod pwy bynnag a ollyngo ymaith ei wraig, ond o achos godineb, yn peri iddi wneuthur godineb: a phwy bynnag a briodo yr hon a ysgarwyd, y mae efe yn gwneuthur godineb.

33 ¶ Trachefn, clywsoch ddywedyd gan y rhai gynt, Na thwng anudon; eithr tâl dy lwon i'r Arglwydd:

34 Ond yr ydwyf fi yn dywedyd wrthych chwi, Na thwng ddim: nac i'r nef; canys gorseddfa Duw ydyw:

35 Nac i'r ddaear; canys troedfaingc ei draed ydyw: nac i Jerusalem; canys dinas y brenhin mawr ydyw.

36 Ac na thwng i'th ben; am na elli wneuthur un blewyn yn wỳn, neu yn ddu.

37 Eithr bydded eich ymadrodd chwi, Ië, îe; Nag ê, nag ê; oblegid beth bynnag sydd dros ben hyn, o'r drwg y mae.

38 ¶ Clywsoch ddywedyd, Llygad am lygad, a dant am ddant:

39 Eithr yr ydwyf fi yn dywedyd wrthych chwi, Na wrthwynebwch ddrwg: ond pwy bynnag a'th darawo ar dy rudd ddehau, tro y llall iddo hefyd.

40 Ac i'r neb a fynno ymgyfreithio â thi, a dwyn dy bais, gâd iddo dy gochl hefyd.

41 A phwy bynnag a'th gymhello un filltir, dos gyd ag ef ddwy.

42 Dyro i'r hwn a ofyno gennyt; ac na thro oddi wrth yr hwn sydd yn ewyllysio echwyna gennyt.

43 Clywsoch ddywedyd, Câr dy gymmydog, a chasâ dy elyn:

44 Eithr yr ydwyf fi yn dywedyd wrthych chwi, Cerwch eich gelynion, bendithiwch y rhai a'ch melldithiant, gwnewch dda i'r sawl a'ch casânt, a gweddiwch dros y rhai a wnel niwed i chwi, ac a'ch erlidiant;

45 Fel y byddoch blant i'ch Tad yr hwn sydd yn y nefoedd: canys y mae efe yn peri i'w haul godi ar y drwg a'r da, ac yn gwlawio ar y cyfiawn a'r anghyfiawn.

46 Oblegid os cerwch y sawl a'ch caro, pa wobr sydd i chwi? oni wna y publicanod hefyd yr un peth?

47 Ac os cyferchwch well i'ch brodyr yn unig, pa ragoriaeth yr ydych chwi yn ei wneuthur? onid ydyw y publicanod hefyd yn gwneuthur felly?

48 Byddwch chwi gan hynny yn berffaith, fel y mae eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd yn berffaith.

PENNOD VI.

1 Crist yn myned rhagddo yn ei bregeth ar y mynydd; gan draethu am elusen, 5 a gweddi, 14 maddeu in brodyr, 16 ac ympryd; 19 pa le y mae i ni roddi ein trysor i gadw; 24 ynghylch gwasanaethu Duw a mammon: 25 yn annog na bydder gofalus am bethau bydol; 33 ond am geisio teyrnas Dduw.

1 GOCHELWCH rhag gwneuthur eich elusen