y'ngŵydd dynion, er mwyn cael eich gweled ganddynt: os amgen ni chewch dâl gan eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd.
2 Am hynny pan wnelych elusen, na udgana o'th flaen, fel y gwna y rhagrithwyr yn y synagogau, ac ar yr heolydd, fel y molianner hwy gan ddynion. Yn wir, meddaf i chwi, Y maent yn derbyn eu gwobr.
3 Eithr pan wnelych di elusen, na wyped dy law aswy pa beth a wna dy law ddehau;
4 Fel y byddo dy elusen yn y dirgel: a'th Dad yr hwn a wêl yn y dirgel, efe a dâl i ti yn yr amlwg.
5 ¶ A phan weddïech, na fydd fel y rhagrithwyr: canys hwy a garant weddio yn sefyll yn y synagogau, ac y'nghonglau yr heolydd, fel yr ymddangosont i ddynion. Yn wir meddaf i chwi, Y maent yn derbyn eu gwobr.
6 Ond tydi, pan weddïech, dos i'th ystafell; ac wedi cau dy ddrws, gweddïa ar dy Dad yr hwn sydd yn y dirgel; a'th Dad yr hwn a wêl yn y dirgel, a dâl i ti yn yr amlwg.
7 A phan weddïoch, na fyddwch siaradus, fel y cenhedloedd: canys y maent hwy yn tybied y cânt eu gwrandaw am eu haml eiriau.
8 Na fyddwch gan hynny debyg iddynt hwy: canys gŵyr eich Tad pa bethau sydd arnoch eu heisieu, cyn gofyn o honoch ganddo.
9 Am hynny gweddiwch chwi fel hyn: Ein Tad, yr hwn wyt yn y nefoedd, Sancteiddier dy enw.
10 Deled dy deyrnas. Gwneler dy ewyllys, megis yn y nef, felly ar y ddaear hefyd.
11 Dyro i ni heddyw ein bara beunyddiol.
12 A maddeu i ni ein dyledion, fel y maddeuwn ninnau i'n dyledwyr.
13 Ac nac arwain ni i brofedigaeth; eithr gwared ni rhag drwg. Canys eiddot ti yw y deyrnas, a'r nerth, a'r gogoniant, yn oes oesoedd. Amen.
14 Oblegid os maddeuwch i ddynion eu camweddau, eich Tad nefol a faddeu hefyd i chwithau:
15 Eithr oni faddeuwch i ddynion eu camweddau, ni faddeu eich Tad eich camweddau chwithau.
16 ¶ Hefyd, pan ymprydioch, na fyddwch fel y rhagrithwyr, yn wyneb-drist: canys anffurfio eu hwynebau y maent, fel yr ymddangosont i ddynion eu bod yn ymprydio. Yn wir meddaf i chwi, Y maent yn derbyn eu gwobr.
17 Eithr pan ymprydiech di, enneinia dy ben, a golch dy wyneb;
18 Fel nad ymddangosech i ddynion dy fod yn ymprydio, ond i'th Dad yr hwn sydd yn y dirgel: a'th Dad yr hwn sydd yn gweled yn y dirgel, a dâl i ti yn amlwg.
19 ¶ Na thrysorwch i chwi drysorau ar y ddaear, lle y mae gwyfyn a rhwd yn llygru, a lle y mae lladron yn cloddio trwodd ac yn lladratta;
20 Eithr trysorwch i chwi drysorau yn y nef, lle nid oes na gwyfyn na rhwd yn llygru, a lle nis cloddia lladron trwodd ac nis lladrattânt.
21 Canys lle y mae eich trysor, yno y bydd eich calon hefyd.
22 Canwyll y corph yw y