Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Testament Newydd (1894).djvu/19

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

10 Nac ysgrepan i'r daith, na dwy bais, nac esgidiau, na ffon: canys teilwng i'r gweithiwr ei fwyd.

11 Ac i ba ddinas bynnag neu dref yr eloch, ymofynnwch pwy sydd deilwng ynddi; ac yno trigwch hyd onid eloch ymaith.

12 A phan ddeloch i dŷ, cyferchwch well iddo.

13 Ac os bydd y tŷ yn deilwng, deued eich tangnefedd arno: ac oni bydd yn deilwng, dychweled eich tangnefedd attoch.

14 A phwy bynnag ni'ch derbynio chwi, ac ni wrandawo eich geiriau, pan ymadawoch o'r tŷ hwnnw, neu o'r ddinas honno, ysgydwch y llwch oddi wrth eich traed.

15 Yn wir meddaf i chwi, Esmwythach fydd i dir y Sodomiaid a'r Gomoriaid yn nydd y farn, nag i'r ddinas honno.

16 Wele, yr ydwyf fi yn eich danfon fel defaid yng nghanol bleiddiaid; byddwch chwithau gall fel y seirph, a diniwed fel y colommennod.

17 Eithr ymogelwch rhag dynion; canys hwy a'ch rhoddant chwi i fyny i'r cynghorau, ac a'ch ffrewyllant chwi yn eu synagogau.

18 A chwi a ddygir at lywiawdwyr a brenhinoedd o'm hachos i, er tystiolaeth iddynt hwy ac i'r Cenhedloedd.

19 Eithr pan y'ch rhoddant chwi i fyny, na ofelwch pa fodd neu pa beth a lefaroch: canys rhoddir i chwi yn yr awr honno pa beth a lefaroch.

20 Canys nid chwychwi yw'r rhai sydd yn llefaru, ond Ysbryd eich Tad yr hwn sydd yn llefaru ynoch.

21 A brawd a rydd frawd i fyny i farwolaeth, a thad ei blentyn: a phlant a godant i fyny yn erbyn eu rhieni, ac a barant eu marwolaeth hwynt.

22 A chas fyddwch gan bawb er mwyn fy enw i: ond yr hwn a barhao hyd y diwedd, efe fydd cadwedig.

23 A phan y'ch erlidiant yn y ddinas hon, ffowch i un arall: canys yn wir y dywedaf wrthych, Na orphennwch ddinasoedd Israel, nes dyfod Mab y dyn.

24 Nid yw'r disgybl yn uwch na'i athro, na'r gwas yn uwch na'i arglwydd.

25 Digon i'r disgybl fod fel ei athraw, a'r gwas fel ei arglwydd. Os galwasant berchen y tŷ yn Beelzebub, pa faint mwy ei dylwyth ef?

26 Am hynny nac ofnwch hwynt: oblegid nid oes dim cuddiedig, a'r nas datguddir; na dirgel, a'r nas gwybyddir.

27 Yr hyn yr ydwyf yn ei ddywedyd wrthych chwi yn y tywyllwch, dywedwch yn y goleuni: a'r hyn a glywch yn y glust, pregethwch ar bennau'r tai.

28 Ac nac ofnwch rhag y rhai a laddant y corph, ac ni allant ladd yr enaid; eithr yn hytrach ofnwch yr hwn a ddichon ddistrywio enaid a chorph yn uffern.

29 Oni werthir dau aderyn y to er ffyrling? ac ni syrth un ohonynt ar y ddaear heb eich Tad chwi.

30 Ac y mae, ïe, holl wallt eich pen wedi eu cyfrif.

31 Nac ofnwch gan hynny: chwi a delwch fwy na llawer o adar y to.

32 Pwy bynnag gan hynny a'm cyffeso i y'ngŵydd dynion, minnau a'i cyffesaf yntau y'ngŵydd fy Nhad yr hwn sydd yn y nefoedd.