Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Testament Newydd (1894).djvu/20

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

33 A phwy bynnag a'm gwado i y'ngŵydd dynion, minnau a'i gwadaf yntau y'ngŵydd fy Nhad yr hwn sydd yn y nefoedd.

34 Na thybygwch fy nyfod i ddanfon tangnefedd ar y ddaear: ni ddeuthum i ddanfon tangnefedd, ond cleddyf.

35 Canys mi a ddeuthum i osod dyn i ymrafaelio yn erbyn ei dad, a'r ferch yn erbyn ei mam, a'r waudd yn erbyn ei chwegr.

36 A gelynion dyn fydd tylwyth ei dŷ ei hun.

37 Yr hwn sydd yn caru tad neu fam yn fwy na myfi, nid yw deilwng ohonof fi: a'r neb sydd yn caru mab neu ferch yn fwy na myfi, nid yw deilwng ohonof fi.

38 A'r hwn nid yw yn cymmeryd ei groes, ac yn canlyn ar fy ol i, nid yw deilwng ohonof fi.

39 Y neb sydd yn cael ei einioes, a'i cyll: a'r neb a gollo ei einioes o'm plegid i, a'i caiff hi.

40 Y neb sydd yn eich derbyn chwi, sydd yn fy nerbyn i; a'r neb sydd yn fy nerbyn i, sydd yn derbyn yr hwn a'm danfonodd i.

41 Y neb sydd yn derbyn prophwyd yn enw prophwyd, a dderbyn wobr prophwyd; a'r neb sydd yn derbyn un cyfiawn yn enw un cyfiawn, a dderbyn wobr un cyfiawn.

42 A phwy bynnag a roddo i'w yfed i un o'r rhai bychain hyn, phiolaid o ddwfr oer yn unig yn enw disgybl, yn wir meddaf i chwi, Ni chyll efe ei wobr.

PENNOD XI.

2 Ioan yn anfon ei ddisgyblion at Grist. 7 Tystiolaeth Crist am Ioan. 18 Tyb y bobl am Ioan, a Christ. 20 Crist yn dannod anniolchgarwch a diedifeirwch Chorazin, Bethsaida, a Chapernaum: 25 a chan foliannu doethineb ei Dad, yn egluro yr efengyl i'r rhai bychain; 28 yn galw atto y rhai sydd yn teimlo baich eu pechodau.

A BU, pan orphenodd yr Iesu orchymyn i'w ddeuddeg disgybl, efe a aeth oddi yno i ddysgu ac i bregethu yn eu dinasoedd hwy.

2 A Ioan, pan glybu yn y carchar weithredoedd Crist, wedi danfon dau o'i ddisgyblion,

3 A ddywedodd wrtho, Ai tydi yw yr hwn sydd yn dyfod, ai un arall yr ydym yn ei ddisgwyl?

4 A'r Iesu a attebodd ac a ddywedodd wrthynt, Ewch, a mynegwch i Ioan y pethau a glywch ac a welwch:

5 Y mae y deillion yn gweled eilwaith, a'r cloffion yn rhodio, a'r cleifion gwahanol wedi eu glanhâu, a'r byddariaid yn clywed; y mae y meirw yn cyfodi, a'r tlodion yn cael pregethu yr efengyl iddynt.

6 A dedwydd yw yr hwn ni rwystrir ynof fi.

7 ¶ Ac a hwy yn myned ymaith, yr Iesu a ddechreuodd ddywedyd wrth y bobloedd am Ioan, Pa beth yr aethoch allan i'r anialwch i edrych am dano? ai corsen yn ysgwyd gan wynt?

8 Eithr pa beth yr aethoch allan i'w weled? ai dyn wedi ei wisgo â dillad esmwyth? wele, y rhai sydd yn gwisgo dillad esmwyth, mewn tai brenhinoedd y maent.

9 Eithr pa beth yr aethoch allan i'w weled? ai prophwyd? ïe, meddaf i chwi, a mwy na phrophwyd:

10 Canys hwn ydyw efe am yr hwn yr ysgrifenwyd, Wele, yr ydwyf fi yn anfon fy nghennad o flaen dy wyneb, yr hwn a barottoa dy ffordd o'th flaen.

11 Yn wir meddaf i chwi,