Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Testament Newydd (1894).djvu/21

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ym mhlith plant gwragedd, ni chododd neb mwy nag Ioan Fedyddiwr: er hynny yr hwn sydd leiaf yn nheyrnas nefoedd, sydd fwy nag ef. 12 Ac o ddyddiau Ioan Fedyddiwr hyd yn awr, yr ydys yn treisio teyrnas nefoedd, a threiswyr sydd yn ei chipio hi.

13 Canys yr holl brophwydi a'r gyfraith a brophwydasant hyd Ioan.

14 Ac os ewyllysiwch ei dderbyn, efe yw Elias, yr hwn oedd ar ddyfod.

15 Y neb sydd ganddo glustiau i wrandaw, gwrandawed.

16 ¶ Eithr i ba beth y cyffelybaf fi y genhedlaeth hon? Cyffelyb yw i blant yn eistedd yn y marchnadoedd, ac yn llefain wrth eu cyfeillion,

17 Ac yn dywedyd, Canasom bibell i chwi, ac ni ddawnsiasoch; canasom alarnad i chwi, ac ni chwynfanasoch.

18 Canys daeth Ioan heb na bwytta nac yfed; ac meddant, Y mae cythraul ganddo.

19 Daeth Mab y dyn yn bwytta ac yn yfed; ac meddant, Wele ddyn glwth, ac yfwr gwin, cyfaill publicanod a phechaduriaid. A doethineb a gyfiawnhâwyd gan ei phlant ei hun.

20 ¶ Yna y dechreuodd efe edliw i'r dinasoedd yn y rhai y gwnaethid y rhan fwyaf o'i weithredoedd nerthol ef, am nad edifarhasent:

21 Gwae di, Chorazin! gwae di, Bethsaida! canys pe gwnaethid yn Tyrus a Sidon y gweithredoedd nerthol a wnaethpwyd ynoch chwi, hwy a edifarhasent er ys talm mewn sachlian a lludw.

22 Eithr meddaf i chwi, Esmwythach fydd i Tyrus a Sidon yn nydd y farn, nag i chwi.

23 A thydi, Capernaum, yr hon a ddyrchafwyd hyd y nef, a dynnir i lawr hyd yn uffern: canys pe gwnaethid yn Sodom y gweithredoedd nerthol a wnaethpwyd ynot ti, hi a fuasai yn aros hyd heddyw.

24 Eithr yr ydwyf yn dywedyd i chwi, Y bydd esmwythach i dir Sodom yn nydd y farn, nag i ti.

25 ¶ Yr amser hwnnw yr attebodd yr Iesu, ac y dywedodd, I ti yr ydwyf yn diolch, O Dad, Arglwydd nef a daear, am i ti guddio y pethau hyn rhag y doethion a'r rhai deallus, a'u datguddio o honot i rai bychain:

26 Ië, O Dad; canys felly y rhyngodd bodd i ti.

27 Pob peth a roddwyd i mi gan fy Nhad: ac nid edwyn neb y Mab ond y Tad; ac nid edwyn neb y Tad ond y Mab, a'r hwn yr ewyllysio y Mab ei ddatguddio iddo.

28 ¶ Deuwch attaf fi bawb a'r y sydd yn flinderog ac yn llwythog, a mi a esmwythâf arnoch.

29 Cymmerwch fy iau arnoch, a dysgwch gennyf; canys addfwyn ydwyf, a gostyngedig o galon: a chwi a gewch orphwysdra i'ch eneidiau:

30 Canys fy iau sydd esmwyth, a'm baich sydd ysgafn.

PENNOD XII.

1 Crist yn ceryddu dallineb y Phariseaid, o ran torri y Sabbath; 3 trwy ysgrythyrau, 10 trwy reswm, 13 a thrwy ryfeddod; 22 yn iachâu y dyn cythreulig, mud, a dall. 31 Ni faddeuir . byth gabledd yn erbyn yr Yspryd Glân. 36 Y rhoddir cyfrif am eiriau segur. 38 Y mae yn ceryddu yr anffyddloniaid a geisient arwydd; 49 ac yn dangos pwy yw ei frawd, a'i chwaer, a'i fam.

YR amser hwnnw yr aeth yr Iesu ar y dydd Sabbath trwy yr ŷd: ac yr oedd chwant