Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Testament Newydd (1894).djvu/22

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bwyd ar ei ddisgyblion, a hwy a ddechreuasant dynnu tywys, a bwytta.

2 A phan welodd y Phariseaid, hwy a ddywedasant wrtho, Wele, y mae dy ddisgyblion yn gwneuthur yr hyn nid yw rydd ei wneuthur ar y Sabbath.

3 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Oni ddarllenasoch pa beth a wnaeth Dafydd, pan oedd chwant bwyd arno ef, a'r rhai oedd gyd âg ef?

4 Pa fodd yr aeth efe i mewn i dŷ Dduw, ac y bwyttaodd y bara gosod, yr hwn nid oedd rydd iddo ei fwytta, nac i'r rhai oedd gyd âg ef, ond yn unig i'r offeiriaid?

5 Neu oni ddarllenasoch yn y gyfraith, fod yr offeiriaid ar y Sabbathau yn y deml yn halogi y Sabbath, a'u bod yn ddigerydd?

6 Eithr yr ydwyf yn dywedyd i chwi fod yma un mwy na'r deml.

7 Ond pe gwybasech beth yw hyn, Trugaredd a ewyllysiaf, ac nid aberth, ni farnasech chwi yn erbyn rhai diniwed.

8 Canys Arglwydd ar y Sabbath hefyd yw Mab y dyn.

9 Ac wedi iddo ymadael oddi yno, efe a aeth i'w synagog hwynt.

10 ¶ Ac wele, yr oedd dyn a chanddo law wedi gwywo. A hwy a ofynasant iddo, gan ddywedyd, Ai rhydd iachâu ar y Sabbathau? fel y gallent achwyn arno.

11 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa ddyn o honoch fydd a chanddo un ddafad, ac o syrth honno mewn pwll ar y dydd Sabbath, nid ymeifl ynddi, a'i chodi allan?

12 Pa faint gwell gan hynny ydyw dyn na dafad? Felly rhydd yw gwneuthur yn dda ar y Sabbathau.

13 Yna y dywedodd efe wrth y dyn, Estyn dy law. Ac efe a'i hestynodd; a hi a wnaed yn iach, fel y llall.

14 Yna yr aeth y Phariseaid allan, ac a ymgynghorasant yn ei erbyn ef, pa fodd y difethent ef.

15 A'r Iesu gan wybod, a giliodd oddi yno; a thorfeydd lawer a'i canlynasant ef, ac efe a'u hiachaodd hwynt oll;

16 Ac a orchymynodd iddynt, na wnaent ef yn gyhoedd:

17 Fel y cyflawnid yr hyn a ddywedasid trwy Esaias y prophwyd, gan ddywedyd,

18 Wele fy ngwasanaethwr, yr hwn a ddewisais; fy anwylyd, yn yr hwn y mae fy enaid yn foddlawn: gosodaf fy yspryd arno, ac efe a draetha farn i'r Cenhedloedd.

19 Nid ymryson efe, ac ni lefain; ac ni chlyw neb ei lais ef yn yr heolydd.

20 Corsen ysig nis tyrr, a llin yn mygu nis diffydd, hyd oni ddygo efe allan farn i fuddugoliaeth. 21 Ac yn ei enw ef y gobeithia y Cenhedloedd.

22 ¶ Yna y dygpwyd atto un cythreulig, dall a mud: ac efe a'i hiachaodd ef, fel y llefarodd ac y gwelodd y dall a mud.

23 A'r holl dorfeydd a synnasant. ac a ddywedasant, Ai hwn yw mab Dafydd?

24 Eithr pan glybu y Phariseaid, hwy a ddywedasant, Nid yw hwn yn bwrw allan gythreuliaid, ond trwy Beelzebub pennaeth y cythreuliaid.

25 A'r Iesu yn gwybod eu meddyliau, a ddywedodd wrthynt, Pob teyrnas wedi ymrannu yn ei herbyn ei hun, a anghyfanneddir; a phob dinas neu dŷ wedi ymrannu yn ei erbyn ei hun,