Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Testament Newydd (1894).djvu/58

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Capernaum; ac yn ebrwydd ar y dydd Sabbath, wedi iddo fyned i mewn i'r synagog, efe a athrawiaethodd.

22 A synnasant wrth ei athrawiaeth ef: canys yr oedd efe yn eu dysgu hwy megis un ag awdurdod ganddo, ac nid fel yr ysgrifenyddion.

23 Ac yr oedd yn eu synagog hwy ddyn ag ynddo yspryd aflan; ac efe a lefodd,

24 Gan ddywedyd, Och, beth sydd i ni a wnelom â thi, Iesu o Nazareth? a ddaethost ti i'n difetha ni? mi a'th adwaen pwy ydwyt, Sanct Duw.

25 A'r Iesu a'i ceryddodd ef, gan ddywedyd, Taw, a dos allan o hono.

26 Yna wedi i'r yspryd aflan ei rwygo ef, a gwaeddi â llef uchel, efe a ddaeth allan o hono.

27 Ac fe a aeth ar bawb fraw, fel yr ymofynasant yn eu mysg eu hunain, gan ddywedyd, Beth yw hyn? pa athrawiaeth newydd yw hon? canys trwy awdurdod y mae efe yn gorchymyn, ie, yr ysprydion aflan, a hwy yn ufuddhâu iddo.

28 Ac yn ebrwydd yr aeth sôn am dano dros yr holl wlad o amgylch Galilea.

29 Ac yn y man wedi iddynt fyned allan o'r synagog, hwy a aethant i dy Simon ac Andreas, gyd âg Iago ac Ioan.

30 Ac yr oedd chwegr Simon yn gorwedd yn glaf o'r cryd: ac yn ebrwydd y dywedasant wrtho am dani hi.

31 Ac efe a ddaeth, ac a'i cododd hi i fynu, gan ymaflyd yn ei llaw hi: a'r cryd a'i gadawodd hi yn y man; a hi a wasanaethodd arnynt hwy.

32 Ac wedi iddi hwyrhâu, pan fachludodd yr haul, hwy a ddygasant atto yr holl rai drwg eu hwyl, a'r rhai cythreulig.

33 A'r holl ddinas oedd wedi ymgasglu wrth y drws.

34 Ac efe a iachaodd lawer o rai drwg eu hwyl o amryw heintiau, ac a fwriodd allan lawer o gythreuliaid; ac ni adawodd i'r cythreuliaid ddywedyd yr adwaenent ef.

35 A'r bore yn blygeiniol iawn, wedi iddo godi, efe a aeth allan, ac a aeth i le anghyfannedd; ac yno y gweddïodd.

36 A Simon, a'r rhai oedd gyd âg ef, a'i dilynasant ef.

37 Ac wedi iddynt ei gael ef, hwy a ddywedasant wrtho, Y mae pawb yn dy geisio di.

38 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Awn i'r trefydd nesaf, fel y gallwyf bregethu yno hefyd: canys i hynny y deuthum allan.

39 Ac yr oedd efe yn pregethu yn eu synagogau hwynt trwy holl Galilea, ac yn bwrw allan gythreuliaid.

40 A daeth atto ef un gwahanglwyfus, gan ymbil âg ef, a gostwng ar ei liniau iddo, a dywedyd wrtho, Os mynni, ti a elli fy nglanhâu.

41 A'r Iesu, gan dosturio, a estynodd ei law, ac a gyffyrddodd âg ef, ac a ddywedodd wrtho, Mynnaf, bydd lân.

42 Ac wedi iddo ddywedyd hynny, ymadawodd y gwahan-glwyf âg ef yn ebrwydd, a glanhâwyd ef.

43 Ac wedi gorchymyn iddo yn gaeth, efe a'i hanfonodd ef ymaith yn y man;

44 Ac a ddywedodd wrtho, Gwel na ddywedych ddim wrth neb: eithr dos ymaith, dangos dy hun i'r offeiriad, ac offrymma dros dy lanhâd y pethau a orchymynodd Moses, er tystiolaeth iddynt hwy.