Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Testament Newydd (1894).djvu/59

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

45 Eithr efe a aeth ymaith, ac a ddechreuodd gyhoeddi llawer, a thaenu y gair ar led, fel na allai yr Iesu fyned mwy yn amlwg i'r ddinas; eithr yr oedd efe allan mewn lleoedd anghyfannedd: ac o bob parth y daethant atto ef.

PENNOD II.

3 Crist yn iachâu un claf o'r parlys; 14 yn galw Matthew o'r dollfa; 15 yn bwytta gyd â phublicanod a phechaduriaid; 18 yn esgusodi ei ddis gyblion, am nad ymprydient, 23 ac am dynnu y tywys ŷd ar y dydd Sabbath.

AC efe a aeth drachefn i Capernaum, wedi rhai dyddiau; a chlybuwyd ei fod ef yn y tŷ.

2 Ac yn y man llawer a ymgasglasant ynghyd, hyd na annent hyd yn nod yn y lleoedd ynghylch y drws: ac efe a bregethodd y gair iddynt hwy.

3 A daethant atto, gan ddwyn un claf o'r parlys, yr hwn a ddygid gan bedwar.

4 A chan na allent nesâu atto gan y dyrfa, didôi y tô a wnaethant lle yr oedd efe ac wedi iddynt dorri trwodd, hwy a ollyngasant i waered y gwely yn yr hwn y gorweddai y claf o'r parlys.

5 A phan welodd yr Iesu eu ffydd hwynt, efe a ddywedodd wrth y claf o'r parlys, Ha fab, maddeuwyd i ti dy bechodau.

6 Ac yr oedd rhai o'r ysgrifenyddion yn eistedd yno, ac yn ymresymmu yn eu calonnau,

7 Beth a wna hwn fel hyn yn dywedyd cabledd? pwy a all faddeu pechodau, ond Duw yn unig?

8 Ac yn ebrwydd, pan wybu yr Iesu yn ei yspryd eu bod hwy yn ymresymmu felly ynddynt eu hunain, efe a ddywedodd wrthynt, Paham yr ydych yn ymresymmu am y pethau hyn yn eich calonnau?

9 Pa un sydd hawsaf, ai dywedyd wrth y claf o'r parlys, Maddeuwyd i ti dy bechodau; ai dywedyd, Cyfod, a chymmer i fynu dy wely, a rhodia?

10 Eithr fel y gwypoch fod gan Fab y dyn awdurdod i faddeu pechodau ar y ddaear, (eb efe wrth y claf o'r parlys,)

11 Wrthyt ti yr wyf yn dywedyd, Cyfod, a chymmer i fynu dy wely, a dos i'th dŷ.

12 Ac yn y man y cyfododd efe, ac y cymmerth i fynu ei wely, ac a aeth allan yn eu gwydd hwynt oll; hyd oni synnodd pawb, a gogoneddu Duw, gan ddywedyd, Ni welsom ni erioed fel hyn.

13 Ac efe a aeth allandrachefn wrth làn y môr: a'r holl dyrfa a ddaeth atto; ac efe a'u dysgodd hwynt.

14 ¶ Ac efe yn myned heibio, efe a ganfu Lefi fab Alpheus yn eistedd wrth y dollfa, ac a ddywedodd wrtho, Canlyn fi. Ac efe a gododd, ac a'i canlynodd ef.

15 A bu, a'r Iesu yn eistedd i fwytta yn ei dŷ ef, i lawer hefyd o bublicanod a phechaduriaid eistedd gyd â'r Iesu a'i ddisgyblion; canys llawer oeddynt, a hwy a'i canlynasent ef.

16 A phan welodd yr ysgrifenyddion a'r Phariseaid ef yn bwytta gyd â'r publicanod a'r pechaduriaid, hwy a ddywedasant wrth ei ddisgyblion ef, Paham y mae efe yn bwytta ac yn yfed gyd a'r publicanod a'r pechaduriaid?

17 A'r Iesu, pan glybu, a ddywed- odd wrthynt, Y rhai sydd iach nid rhaid iddynt wrth y meddyg, ond rhai cleifion; ni ddeuthum i alw