Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Testament Newydd (1894).djvu/60

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y rhai cyfiawn, ond pechaduriaid, i edifeirwch.

18 A disgyblion Ioan a'r Phariseaid oeddynt yn ymprydio. A hwy a ddaethant ac a ddywedasant wrtho, Paham y mae disgyblion Ioan a'r Phariseaid yn ymprydio, ond dy ddisgyblion di nid ydynt yn ymprydio?

19 A dywedodd yr Iesu wrthynt, A all plant yr ystafell briodas ymprydio, tra fyddo y priodas-fab gyd â hwynt? tra fyddo ganddynt y prïodas-fab gyd â hwynt, ni allant ymprydio.

20 Eithr y dyddiau a ddaw, pan ddyger y prïodas-fab oddi arnynt; ac yna yr ymprydiant yn y dyddiau hynny.

21 Hefyd ni wnïa neb ddernyn o frethyn newydd ar ddilledyn hen: os amgen, ei gyflawniad newydd ef a dyn oddi wrth yr hen, a gwaeth fydd y rhwyg.

22 Ac ni rydd neb win newydd mewn hen gostrelau: os amgen, y gwin newydd a ddryllia y costrelau, a'r gwin a red allan, a'r costrelau a gollir: eithr gwin newydd sydd raid ei roi mewn costrelau newyddion.

23 ¶ A bu iddo fyned trwy yr ŷd ar y Sabbath; a'i ddisgyblion a ddechreuasant ymdaith gan dynnu y tywys.

24 A'r Phariseaid a ddywedasant wrtho, Wele, paham y gwnant ar Sabbath yr hyn nid yw gyfreithlawn?

25 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Oni ddarllenasoch erioed beth a wnaeth Dafydd, pan oedd angen a chwant bwyd arno, efe a'r rhai oedd gyd âg ef?

26 Pa fodd yr aeth efe i dŷ Dduw, dan Abïathar yr arch-offeiriad, ac y bwyttaodd y bara gosod, y rhai nid cyfreithlawn eu bwytta, ond i'r offeiriaid yn unig, ac a'i rhoddes hefyd i'r rhai oedd gyd âg ef?

27 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Y Sabbath a wnaethpwyd er mwyn dyn, ac nid dyn er mwyn y Sabbath:

28 Am hynny y mae Mab y dyn yn Arglwydd hefyd ar y Sabbath.

PENNOD III.

Crist yn iachau y llaw wedi gwywo, 10 a llawer o glefydau eraill: 11 yn ceryddu yr ysprydion aflan: 13 yn dewis ei ddeuddeg apostol: 22 yn atteb cabledd y rhai a ddywedent ei fod ef yn bwru allan gythreuliaid trwy Beelzebub; 31 ac yn dangos pwy ydyw ei frawd, a'i chwaer, a'i fam.

1 Ac efe a aeth i mewn drachefn i'r synagog; ac yr oedd yno ddyn a chanddo law wedi gwywo.

2 A hwy a'i gwyliasant ef, a iachâi efe ef ar y dydd Sabbath; fel y cyhuddent ef.

3 Ac efe a ddywedodd wrth y dyn yr oedd ganddo y llaw wedi gwywo, Cyfod i'r canol.

4 Ac efe a ddywedodd wrthynt hwy, Ai rhydd gwneuthur da ar y dydd Sabbath, ynte gwneuthur drwg? cadw einioes, ai lladd? A hwy a dawsant â sôn.

5 Ac wedi edrych arnynt o amgylch yn ddigllawn, gan dristâu am galedrwydd eu calon hwynt, efe a ddywedodd wrth y dyn, Estyn allan dy law. Ac efe a'i hestynodd a'i law ef a wnaed yn iach fel y llall.

6 A'r Phariseaid a aethant allan, ac a ymgynghorasant yn ebrwydd gyd â'r Herodianiaid yn ei erbyn ef, pa fodd y difethent ef.

7 A'r Iesu gyd â'i ddisgyblion a giliodd tu a'r môr: a