Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Testament Newydd (1894).djvu/61

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

llïaws mawr a'i canlynodd ef, o Galilea, ac o Judea,

8 Ac o Jerusalem, ac o Idumea, ac o'r tu hwnt i'r Iorddonen; a'r rhai o gylch Tyrus a Sidon, llïaws mawr, pan glywsant gymmaint a wnaethai efe, a ddaethant atto.

9 Ac efe a ddywedodd wrth ei ddisgyblion am fod llong yn barod iddo, oblegid y dyrfa, rhag iddynt ei wasgu ef.

10 Canys efe a iachasai lawer, hyd oni phwysent arno, er mwyn cy- ffwrdd âg ef, cynnifer ag oedd a phläau arnynt.

11 A'r ysprydion aflan, pan wel- sant ef, a syrthiasant i lawr ger ei fron ef, ac a waeddasant, gan ddy- wedyd, Ti yw Mab Duw.

12 Yntau a orchymynodd iddynt yn gaeth, na chyhoeddent ef.

13 Ac efe a esgynodd i'r mynydd, ac a alwodd atto y rhai a fynnodd efe: a hwy a ddaethant atto.

14 Ac efe a ordeiniodd ddeuddeg, fel y byddent gyd ag ef, ac fel y danfonai efe hwynt i bregethu; 15 Ac i fod ganddynt awdurdod i iachân clefydau, ac i fwrw allan gythreuliaid.

16 Ac i Simon y rhoddes efe enw Petr;

17 Ac Iago fab Zebedeus, ac Ioan brawd Iago, (ac efe a roddes iddynt enwau, Boanerges; yr hyn yw, Meibion y daran;)

18 Ac Andreas, a Phylip, a Bartholomeus, a Matthew, a Thomas, ac Iago fab Alpheus, a Thadeus, a Simon y Canaanead,

19 A Judas Iscariot, yr hwn hefyd a'i bradychodd ef. A hwy a ddaethant i dŷ. 20 A'r dyrfa a ymgynhullodd drachefn, fel na allent gymmaint a bwytta bara.

21 A phan glybu yr eiddo ef, hwy a aethant i'w ddal ef: canys dywedasant, Y mae efe allan o'i bwyll.

22 A'r ysgrifenyddion, y rhai a ddaethent i waered o Jerusalem, a ddywedasant fod Beelzebub ganddo, ac mai trwy bennaeth y cythreuliaid yr oedd efe yn bwrw allan gythreuliaid.

23 Ac wedi iddo eu galw hwy atto, efe a ddywedodd wrthynt mewn damhegion, Pa fodd y gall Satan fwrw allan Satan?

24 Ac o bydd teyrnas wedi ymrannu yn ei herbyn ei hun, ni ddichon y deyrnas honno sefyll.

25 Ac o bydd tŷ wedi ymrannu yn ei erbyn ei hun, ni ddichon y tŷ hwnnw sefyll.

26 Ac os Satan a gyfyd yn ei er- byn ei hun, ac a fydd wedi ymran- nu, ni all efe sefyll, eithr y mae iddo ddiwedd.

27 Ni ddichon neb fyned i mewn i dŷ y cadarn, ac yspeilio ei ddo- drefn ef, oni bydd iddo yn gyntaf rwymo y cadarn; ac yna yr yspeilia ei dŷ ef.

28 Yn wir y dywedaf i chwi, y maddeuir pob pechod i feibion dynion, apha gabledd bynnag a gablant:

29 Eithr yr hwn a gablo yn erbyn yr Yspryd Glân, ni chaiff faddeuant yn dragywydd, ond y mae yn euog o farn dragywydd:

30 Am iddynt ddywedyd, Y mae yspryd aflan ganddo.

31 Daeth gan hynny ei frodyr ef a'i fam; a chan sefyll allan, hwy a anfonasant atto, gan ei alw ef.

32 A'r bobl oedd yn eistedd o'i amgylch, ac a ddywedasant wrtho, Wele, y mae dy