Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Testament Newydd (1894).djvu/64

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

41 Eithr hwy a ofnasant yn ddirfawr, ac a ddywedasant wrth eu gilydd, Pwy yw hwn, gan fod y gwynt a'r môr yn ufuddhâu iddo?

PENNOD V.

1 Crist yn gwaredu y dyn yr oedd ynddo leng o gythreuliaid: 13 hwythau yn myned i'r moch. 25 Y mae efe yn iacháu y wraig o'r diferlif gwaed, 35 ac yn cyfodi merch Jairus o farw i fyw.

1 A HWY a ddaethant i'r tu hwnt i'r môr, i wlad y Gadareniaid.

2 Ac ar ei ddyfodiad ef allan o'r llong, yn y man cyfarfu âg ef o blith y beddau, ddyn ag yspryd aflan ynddo,

3 Yr hwn oedd a'i drigfan ym mhlith y beddau; ac ni allai neb, ie, â chadwynau, ei rwymo ef:

4 O herwydd ei rwymo ef yn fynych â llyffetheiriau, ac â chadwynau, a darnio o hono y cadwynau, a dryllio y llyffetheiriau: ac ni allai neb ei ddofi ef.

5 Ac yn wastad nos a dydd yr oedd efe yn llefain yn yn y mynyddoedd, ac ym mhlith y beddau, ac yn ei dorri ei hun & cherrig.

6 Ond pan ganfu efe yr Iesu o hirbell, efe a redodd, ac a'i haddolodd ef;

7 A chan waeddi â llef uchel, efe a ddywedodd, Beth sydd i mi a wnelwyf â thi, Iesu Mab y Duw goruchaf? yr ydwyf yn dy dynghedu trwy Dduw, na phoenech fi.

8 (Canys dywedasai wrtho, Yspryd aflan, dos allan o'r dyn.)

9 Ac efe a ofynodd iddo, Beth yw dy enw? Yntau a attebodd, gan ddywedyd, Lleng yw fy enw; am fod llawer o honom.

10 Ac efe a fawr-ymbiliodd âg ef, na yrrai efe hwynt allan o'r wlad.

11 Ond yr oedd yno ar y mynyddoedd genfaint fawr o foch yn pori.

12 A'r holl gythreuliaid a attolygcasant iddo, gan ddywedyd, Danfon mi i'r moch, fel y gallom fyned i mewn iddynt.

13 Ac yn y man y caniattaodd yr Iesu iddynt. A'r ysprydion aflan, wedi myned allan, a aethant i mewn i'r moch a rhuthrodd y genfaint dros y dibyn i'r môr (ac ynghylch dwy fil oeddynt) ac a'u boddwyd yn y môr.

14 A'r rhai a borthent y moch a ffoisant, ac a fynegasant y peth yn y ddinas, ac yn y wlad: a hwy a aethant allan i weled beth oedd hyn a wnaethid.

15 A hwy a ddaethant at yr Iesu, ac a welsant y cythreulig, yr hwn y buasai y lleng ynddo, yn eistedd, ac yn ei ddillad, ac yn ei iawn bwyll; ac a ofnasant.

16 A'r rhai a welsant a fynegas- ant iddynt, pa fodd y buasai i'r cythreulig, ac am y moch.

17 A dechreuasant ddymuno arno ef fyned ymaith o'u goror hwynt.

18 Ac efe yn myned i'r llong, yr hwn y buasai y cythraul ynddo a ddymunodd arno gael bod gyd âg ef.

19 Ond yr Iesu ni adawodd iddo; eithr dywedodd wrtho, Dos i'th dŷ at yr eiddot, a mynega iddynt pa faint a wnaeth yr Arglwydd erot, ac iddo drugarhâu wrthyt.

20 Ac efe a aeth ymaith, ac a ddechreuodd gyhoeddi trwy Decapolis, pa bethau eu maint a wnaethai yr Iesu iddo: a phawb a ryfeddasant.