21 Ac wedi i'r Iesu drachefn fyned mewn llong i'r làn arall, ym- gasglodd tyrfa fawr atto: ac yr oedd efe wrth y môr.
22 Ac wele, un o bennaethiaid y synagog a ddaeth, a'i enw Jairus: a phan ei gwelodd, efe a syrthiodd wrth ei draed ef;
23 Ac efe a fawr-ymbiliodd ag ef, gan ddywedyd, Y mae fy merch fechan ar drange: attolwg i ti ddyfod, a dodi dy ddwylaw arni, fel yr iachâer hi; a byw fydd.
24 A'r Iesu a aeth gyd âg ef: a thyrfa fawr a'i canlynodd ef, ac a'i gwasgasant ef.
25 A rhyw wraig, yr hon a fuasai mewn diferlif gwaed ddeuddeng mlynedd,
26 Ac a oddefasai lawer gan laweroedd o feddygon, ac a dreuliasai gymmaint ag oedd ar ei helw, ac ni chawsai ddim llesâd, eithr yn hytrach myned waeth-waeth,
27 Pan glybu hi am yr Iesu, hi a ddaeth yn y dyrfa o'r tu ol, ac a gyffyrddodd a'i wisg ef;
28 Canys hi a ddywedasai, Os cyffyrddaf a'i ddillad ef, iach fyddaf.
29 Ac yn ebrwydd y sychodd ffynhonnell ei gwaed hi: a hi a wybu yn ei chorph ddarfod ei hiachâu o'r pla.
30 Ac yn y fan yr Iesu, gan wybod ynddo ei hun fyned rhinwedd allan o hono, a drodd yn y dyrfa, ac a ddywedodd, Pwy a gyffyrddodd â'm dillad?
31 A'i ddisgyblion a ddywedasant wrtho, Ti a weli y dyrfa yn dy wasgu, ac a ddywedi di, Pwy a'm cyffyrddodd?
32 Ac yntau a edrychodd o amgylch, i weled yr hon a wnaethai hyn.
33 Ond y wraig, gan ofni a chrynu, yn gwybod beth a wnaethid ynddi, a ddaeth ac a syrthiodd ger ei fron ef, ac a ddywedodd iddo yr holl wirionedd.
34 Ac efe a ddywedodd wrthi, Ha ferch, dy ffydd a'th iachaodd: dos mewn heddwch, a bydd iach o'th bla.
35 Ac efe etto yn llefaru, daeth rhai o dŷ pennaeth y synagog, gan ddywedyd, Bu farw dy ferch: i ba beth etto yr aflonyddi yr Athraw?
36 A'r Iesu, yn ebrwydd wedi clywed y gair a ddywedasid, a ddywedodd wrth bennaeth y synagog, Nac ofna; cred yn unig.
37 Ac ni adawodd efe neb i'w ddilyn, ond Petr, ac Iago, ac Ioan brawd Iago.
38 Ac efe a ddaeth i dy pennaeth y synagog, ac a ganfu y cynnwrf, a'r rhai oedd yn wylo ac yn ochain llawer.
39 Ac wedi iddo fyned i mewn, efe a ddywedodd wrthynt, Paham y gwnewch gynnwrf, ac yr wylwch? ni bu farw yr eneth, eithr cysgu y mae.
40 A hwy a'i gwatwarasant ef. Ond efe, gwedi bwrw pawb allan, a gymmerth dad yr eneth a'i mam, a'r rhai oedd gyd âg ef, ac a aeth i mewn lle yr oedd yr eneth yn gorwedd.
41 Ac wedi ymaflyd yn llaw yr eneth, efe a ddywedodd wrthi, Talitha, cwmi; yr hyn o'i gyfieithu yw, Yr eneth, yr wyf yn dywedyd wrthyt, cyfod.
42 Ac yn y fan y cyfododd yr eneth, ac a rodiodd: canys deuddeng mlwydd oed ydoedd hi. A synnu a wnaeth arnynt â syndod mawr.