Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Testament Newydd (1894).djvu/67

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

19 Ond Herodias a ddaliodd ŵg iddo, ac a chwennychodd ei ladd ef; ac nis gallodd:

20 Canys Herod oedd yn ofni Ioan, gan wybod ei fod ef yn wr cyfiawn, ac yn sanctaidd; ac a'i parchai ef: ae wedi iddo ei glywed ef, efe a wnai lawer o bethau, ac a'i gwrandawai ef yn ewyllysgar.

21, Ac wedi dyfod diwrnod cyfaddas, pan wnaeth Herod ar ei ddydd genedigaeth swpper i'w bennaeth- iaid, a'i flaenoriaid, a goreugwŷr Galilea:

22 Ac wedi i ferch Herodias honno ddyfod i mewn, a dawnsio, a boddhâu Herod, a'r rhai oedd yn eistedd gyd âg ef, y brenhin a ddywedodd wrth y llangces, Gofyn i mi y peth a fynnech, ac mi a'i rhoddaf i ti.

23 Ac efe a dyngodd iddi, Beth bynnag a ofynech i mi, mi a'i rhoddaf i ti, hyd hanner fy nheyrnas.

24 A hithau a aeth allan, ac a ddywedodd wrth ei mam, Pa beth a ofynaf? A hithau a ddywedodd, Pen Ioan Fedyddiwr.

25 Ac yn y fan hi a aeth i mewn ar frys at y brenhin, ac a ofynodd, gan ddywedyd, Mi a fynnwn i ti roi i mi allan o law, ar ddysgl, ben Ioan Fedyddiwr.

26 A'r brenhin yn drist iawn, ni chwennychai ei bwrw hi heibio, o herwydd y llwon, a'r rhai oedd yn eistedd gyd âg ef.

27 Ac yn y man y brenhin a ddanfonodd ddihenyddwr, ac a orchymynodd ddwyn ei ben ef.

28 Ac yntau a aeth, ac a dorrodd ei ben ef yn y carchar, ac addug ei ben ef ar ddysgl, ac a'i rhoddes i'r llangces; a'r llangces a'i rhoddes ef i'w mam.

29 A phan glybu ei ddisgyblion ef, hwy a ddaethant ac a gymmerasant ei gorph ef, ac a'i dodasant mewn bedd.

30 ¶ A'r apostolion a ymgasglasant at yr Iesu, ac a fynegasant iddo yr holl bethau, y rhai a wnaethent, a'r rhai hefyd a athrawiaethasent.

31 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Deuwch eich hunain i le anghyfannedd o'r neilldu, a gorphwyswch encyd. Canys llawer oedd yn dyfod ac yn myned, fel nad oeddynt yn cael ennyd cymmaint ag i fwytta.

32 A hwy a aethant i le anghyfannedd mewn llong o'r neilldu.

33 A'r bobloedd a'u gwelsant hwy yn myned ymaith, a llawer a'i hadnabuant ef, ac a redasant yno ar draed o'r holl ddinasoedd, ac a'u rhag-flaenasant hwynt, ac a ymgasglasant atto ef.

34 A'r Iesu, wedi myned allan, a welodd dyrfa fawr, ac a dosturiodd wrthynt, am eu bod fel defaid heb ganddynt fugail: ac a ddechreuodd ddysgu iddynt lawer o bethau.

35 Ac yna wedi ei myned hi yn llawer o'r dydd, y daeth ei ddisgyblion atto ef, gan ddywedyd, Y lle sydd anial, ac weithian y mae hi yn llawer o'r dydd:

36 Gollwng hwynt ymaith, fel yr elont i'r wlad oddi amgylch, ac i'r pentrefi, ac y prynont iddynt eu hunain fara: canys nid oes ganddynt ddim i'w fwytta.

37 Ond efe a attebodd ac a ddywedodd wrthynt, Rhoddwch chwi iddynt beth i'w fwyt-