Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Testament Newydd (1894).djvu/68

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ta. A hwy a ddywedasant wrtho, A awn ni a phrynu gwerth deucan ceiniog o fara, a'i roddi iddynt i'w fwytta?

38 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa sawl torth sydd gennych? ewch, ac edrychwch. Ac wedi iddynt wybod, hwy a ddywedasant, Pump, a dau bysgodyn.

39 Ac efe a orchymynodd iddynt beri i bawb eistedd yn fyrddeidiau ar y glaswellt.

40 A hwy a eisteddasant yn finteioedd a minteioedd, o fesur cannoedd, ac o fesur deg a deugeiniau.

41 Ac wedi cymmeryd y pùm torth a'r ddau bysgodyn, gan edrych i fynu tu a'r nef, efe a fendithiodd, ac a dorrodd y bara, ac a'u rhoddes at ei ddisgyblion, i'w gosod ger eu bronnau hwynt: a'r ddau bysgodyn a rannodd efe rhyngddynt oll.

42 A hwy oll a fwyttasant, ac a gawsant ddigon.

43 A chodasant ddeuddeg basgedaid yn llawn o'r briw-fwyd, ac o'r pysgod.

44 A'r rhai a fwyttasent o'r torthau, oedd ynghylch pùm mil o wŷr.

45 Ac yn y man efe a gymhellodd ei ddisgyblion i fyned i'r llong, a myned o'r blaen i'r lan arall i Bethsaida, tra fyddai efe yn gollwng ymaith y bobl.

46 Ac wedi iddo eu danfon hwynt ymaith, efe a aeth i'r mynydd i weddio.

47 A phan aeth hi yn hwyr, yr oedd y llong ar ganol y môr, ac yntau ei hun ar y tir.

48 Ac efe a'u gwelai hwynt yn flin arnynt yn rhwyfo; canys y gwynt oedd yn eu herbyn. Ac ynghylch y bedwaredd wylfa o'r nos efe a ddaeth attynt, gan rodio ar y môr; ac a fynnasai fyned heibio iddynt.

49 Ond pan welsant hwy ef yn rhodio ar y môr, hwy a dybiasant mai drychiolaeth ydoedd: a hwy a waeddasant.

50 (Canys hwynt oll a'i gwelsant ef, ac a ddychrynasant.) Ac yn y man yr ymddiddanodd efe & hwynt, ac y dywedodd wrthynt, Cymmerwch gysur: myfi yw; nac ofnwch.

51 Ac efe a aeth i fynu attynt i'r llong; a'r gwynt a dawelodd. A hwy a synnasant ynddynt eu hunain yn fwy o lawer, ac a ryfeddasant.

52 Oblegid ni ddeallasant am y torthau hynny: canys yr oedd eu calon hwynt wedi caledu.

53 Ac wedi iddynt ddyfod trosodd, hwy a ddaethant i dir Gennesaret, ac a làniasant.

54 Ac wedi eu myned hwynt allan o'r llong, hwy a'i hadnabuant ef yn ebrwydd.

55 Ac wedi iddynt redeg trwy gwbl o'r goror hwnnw, hwy a ddechreuasant ddwyn oddi amgylch mewn gwelŷau rai cleifion, pa le bynnag y clywent ei fod ef.

56 Ac i ba le bynnag yr elai efe i mewn, i bentrefi, neu ddinasoedd, neu wlad, hwy a osodent y cleifion yn yr heolydd, ac a attolygent iddo gael o honynt gyffwrdd cymmaint ag âg ymyl ei wisg ef: a chynnifer ag a gyffyrddasant âg ef, a iachâwyd.

PENNOD VII.

1 Y Phariseaid yn beio ar y disgyblion am fwytta heb ymolchi: 8 yn torri gorchymyn Duw trwy draddodiadau dynion. 14 Nad yw bwyd yn halogi dyn. 24 Crist yn iacháu merch y wraig Syrophenicia oddi wrth yspryd aflan; 31 ac un oedd fyddar, ac âg attal dywedyd arno.