Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Testament Newydd (1894).djvu/69

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

1 YNA yr ymgasglodd atto y Phariseaid, a rhai o'r ysgrifenyddion a ddaethai o Jerusalem.

2 A phan welsant rai o'i ddisgyblion ef â dwylaw cyffredin (hynny ydyw, heb olchi,) yn bwytta bwyd, hwy a argyhoeddasant.

3 Canys y Phariseaid, a'r holl Iuddewon, oni bydd iddynt olchi eu dwylaw yn fynych, ni fwyttânt; gan ddal traddodiad yr hynafiaid.

4 A phan ddelont o'r farchnad, oni bydd iddynt ymolchi, ni fwyttânt. A llawer o bethau eraill y sydd, y rhai a gymmerasant i'w cadw; megis golchi cwppanau, ac ystenau, ac efyddynau, a byrddau.

5 Yna y gofynodd y Phariseaid a'r ysgrifenyddion iddo, Paham nad yw dy ddisgyblion di yn rhodio yn ol traddodiad yr hynafiaid, ond bwytta eu bwyd â dwylaw heb olchi?

6 Ond efe a attebodd ac a ddywedodd wrthynt, Da y prophwydodd Esaias am danoch chwi, ragrithwyr, fel y mae yn ysgrifenedig, Y mae y bobl hyn yn fy anrhydeddu i â'u gwefusau, ond eu calon sydd bell oddi wrthyf.

7 Eithr ofer y maent yn fy addoli, gan ddysgu yn lle dysgeidiaeth, orchymynion dynion.

8 Canys, gan adael heibio orchymyn Duw, yr ydych yn dal traddodiad dynion; sef golchiadau ystenau a chwppanau: a llawer eraill o'r cyffelyb bethau yr ydych yn eu gwneuthur.

9 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Gwych yr ydych yn rhoi heibio orchymyn Duw, fel y cadwoch eich traddodiad eich hunain.

10 Canys Moses a ddywedodd, Anrhydedda dy dad a'th fam: a'r hwn a felldithio dad neu fam, bydded farw y farwolaeth.

11 Ac meddwch chwithau, Os dywed dyn wrth ei dad neu ei fam, Corban, hynny yw, Rhodd, trwy ba beth bynnag y ceit lês oddi wrthyf fi; difai fydd.

12 Ac nid ydych mwyach yn gadael iddo wneuthur dim i'w dad neu i'w fam;

13 Gan ddirymmu gair Duw â'ch traddodiad eich hunain, yr hwn a draddodasoch chwi: a llawer o gyffelyb bethau a hynny yr ydych yn eu gwneuthur.

14 A chwedi galw atto yr holl dyrfa, efe a ddywedodd wrthynt, Gwrandewch chwi oll arnaf, a deallwch.

15 Nid oes dim allan o ddyn yn myned i mewn iddo, a ddichon ei halogi ef: eithr y pethau sydd yn dyfod allan o hono, y rhai hynny yw y pethau sydd yn halogi dyn.

16 Od oes gan neb glustiau i wrandaw, gwrandawed.

17 A phan ddaeth efe i mewn i'r tŷ oddi wrth y bobl, ei ddisgyblion a ofynasant iddo am y ddammeg.

18 Yntau a ddywedodd wrthynt, Ydych chwithau hefyd mor ddi-ddeall? Oni wyddoch am bob peth oddi allan a êl i mewn i ddyn, na all hynny ei halogi ef;

19 Oblegid nid yw yn myned i'w galon ef, ond i'r bol; ac yn myned allan i'r geudy, gan garthu yr holl fwydydd?

20 Ac efe a ddywedodd, Yr hyn sydd yn dyfod allan o ddyn, hynny sydd yn halogi dyn.

21 Canys oddi mewn, allan o galon dynion, y daw drwg-