Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Testament Newydd (1894).djvu/73

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

7 A daeth cwmmwl yn cysgodi drostynt hwy: a llef a ddaeth allan o'r cwmmwl, gan ddywedyd, Hwn yw fy anwyl Fab; gwrandewch ef.

8 Ac yn ddisymmwth, pan edrychasant o amgylch, ni welsant neb mwy, ond yr Iesu yn unig gyd â hwynt.

9 A phan oeddynt yn dyfod i waered o'r mynydd, efe a orchymynodd iddynt na ddangosent i neb y pethau a welsent, hyd pan adgyfodai Mab y dyn o feirw.

10 A hwy a gadwasant y gair gyd â hwynt eu hunain, gan gyd-ymholi beth yw yr adgyfodi o feirw. 11 A hwy a ofynasant iddo, gan ddywedyd, Paham y dywed yr ysgrifenyddion, fod yn rhaid i Elias ddyfod yn gyntaf?

12 Ac efe a attebodd ac a ddywedodd wrthynt, Elias ddiau gan ddyfod yn gyntaf a edfryd bob peth; a'r modd yr ysgrifenwyd am Fab y dyn, y dioddefai lawer o bethau, ac y dirmygid ef.

13 Eithr yr wyf yn dywedyd i chwi, ddyfod Elias yn ddiau, a gwneuthur o honynt iddo yr hyn a fynnasant, fel yr ysgrifenwyd am dano.

14 A phan ddaeth efe at ei ddisgyblion, efe a welodd dyrfa fawr yn eu cylch hwynt, a'r ysgrifenyddion yn cyd-ymholi â hwynt.

15 Ac yn ebrwydd yr holl dyrfa, pan ganfuant ef, a ddychrynasant, a chan redeg atto, a gyfarchasant iddo.

16 Ac efe a ofynodd i'r ysgrifenyddion, Pa gyd-ymholi yr ydych yn eich plith?

17 Ac un o'r dyrfa a attebodd ac a ddywedodd, Athraw, mi a ddygais fy mab attat, ag yspryd mud ynddo:

18 A pha le bynnag y cymmero ef, efe a'i rhwyga; ac yntau a fwrw ewyn, ac a ysgyrnyga ddannedd, ac y mae yn dihoeni: ac mi a ddywedais wrth dy ddisgyblion ar iddynt ei fwrw ef allan; ac nis gallasant.

19 Ac efe a attebodd iddynt, ac a ddywedodd, Ogenhedlaeth anffyddlawn, pa hyd y byddaf gyd â chwi? pa hyd y goddefaf chwi? dygwch ef attaf fi.

20 A hwy a'i dygasant ef atto. A phan welodd ef, yn y man yr yspryd a'i drylliodd ef; a chan syrthio ar y ddaear, efe a ymdreiglodd, dan falu ewyn.

21 A gofynodd yr Iesu i'w dad ef, Beth sydd o amser er pan ddarfu fel hyn iddo? Yntau a ddywedodd, Er yn fachgen.

22 A mynych y taflodd efe ef yn tân, ac i'r dyfroedd, fel y difethai efe ef: ond os gelli di ddim, cymmorth ni, gan dosturio wrthym.

23 A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Os gelli di gredu, pob peth a all fod i'r neb a gredo.

24 Ac yn y fan tad y bachgen, dan lefain ac wylofain, a ddywedodd, Yr wyf fi yn credu, O Arglwydd; cymmorth fy anghrediniaeth i.

25 A phan welodd yr Iesu fod y dyrfa yn cyd-redeg atto, efe a geryddodd yr yspryd aflan, gan ddywedyd wrtho, Tydi yspryd mud a byddar, yr wyf fi yn gorchymyn i di, Tyred allan o hono, ac na ddos mwy iddo ef.

26 Ac wedi i'r yspryd lefain, a dryllio llawer arno ef, efe a aeth allan: ac yr oedd efe fel un marw, fel y dywedodd llawer ei farw ef.

27 A'r Iesu a'i cymmerodd