ef erbyn ei law, ac a'i cyfododd; ac efe a safodd i fynu.
28 Ac wedi iddo fyned i mewn i'r ty, ei ddisgyblion a ofynasant iddo o'r neilldu, Paham na allem ni ei fwrw ef allan?
29 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Y rhyw hwn ni all er dim ddyfod allan, ond trwy weddi ac ympryd.
30 Ac wedi ymadael oddi yno, hwy a ymdeithiasant trwy Galilea : ac ni fynnai efe wybod o neb.
31 Canys yr oedd efe yn dysgu ei ddisgyblion, ac yn dywedyd wrthynt, Y traddodid Mab y dyn i ddwylaw dynion, ac y lladdent ef; ac wedi ei ladd, yr adgyfodai y trydydd dydd. 32 Ond nid oeddynt hwy yn deall yr ymadrodd, ac ofni yr oeddynt ofyn iddo.
33 ¶ Ac efe a ddaeth i Capernaum a phan oedd efe yn y tŷ, efe a ofynodd iddynt, Beth yr oeddych yn ymddadleu yn eich plith eich hunain ar y ffordd?
34 Ond hwy a dawsant â sôn: canys ymddadleuasent a'u gilydd ar y ffordd, pwy a fyddai fwyaf. 35 Ac efe a eisteddodd, ac a alwodd y deuddeg, ac a ddywedodd wrthynt, Os myn neb fod yn gyntaf, efe a fydd olaf o'r cwbl, a gweinidog i bawb.
36 Ac efe a gymmerth fachgennyn, ac a'i gosododd ef yn eu canol hwynt: ac wedi iddo ei gymmeryd ef yn ei freichiau, efe a ddywedodd wrthynt,
37 Pwy bynnag a dderbynio un o'r cyfryw fechgyn yn fy enw i, sydd yn fy nerbyn i: a phwy bynnag a'm derbyn i, nid myfi y mae yn ei dderbyn, ond yr hwn a'm danfonodd i.
38 ¶ Ac Ioan a'i hattebodd ef, gan ddywedyd, Athraw, ni a welsom un yn bwrw allan gythreuliaid yn dy enw di, yr hwn nid yw yn ein dilyn ni; ac ni a waharddasom iddo, am nad yw yn ein dilyn ni.
39 A'r Iesu a ddywedodd, Na waherddwch iddo; canys nid oes neb a wna wyrthiau yn fy enw i, ac a all yn y fan roi drygair i mi.
40 Canys y neb nid yw i'n herbyn, o'n tu ni y mae.
41 Canys pwy bynnag a roddo i chwi i'w yfed gwppanaid o ddwfr yn fy enw i, am eich bod yn perthyn Grist, yn wir meddaf i chwi, Ni chyll efe ei obrwy.
42 A phwy bynnag a rwystro un o'r rhai bychain hyn sydd yn credu ynof fi, gwell oedd iddo osod maen melin o amgylch ei wddf, a'i daflu i'r môr.
43 Ac os dy law a'th rwystra, torr hi ymaith gwell yw i ti fyned i mewn i'r bywyd yn anafus, nag a dwy law gennyt fyned i uffern, i'r tân anniffoddadwy:
44 Lle nid yw eu pryf hwynt yn marw, na'r tân yn diffodd.
45 Ac os dy droed a'th rwystra, torr ef ymaith gwell yw i ti fyned i mewn i'r bywyd yn gloff, nag a dau droed gennyt dy daflu i uffern, i'r tân anniffoddadwy:
46 Lle nid yw eu pryf hwynt yn marw, na'r tân na'r tân yn diffodd.
47 Ac os dy lygad a'th rwystra, bwrw ef ymaith: gwell yw i ti fyned i mewn i deyrnas Dduw yn unllygeidiog, nag a dau lygad gennyt dy daflu i dân uffern:
48 Lle nid yw eu pryf hwynt yn marw, na'r tân yn diffodd.
49 Canys. pob un a helltir