Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Testament Newydd (1894).djvu/76

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y rhai hyn i gyd a gedwais o'm hieuengetid.

21 A'r Iesu gan edrych arno, a'i hoffodd, ac a ddywedodd wrtho, Un peth sydd ddiffygiol i ti: dos, gwerth yr hyn oll sydd gennyt, a dyro i'r tlodion; a thi a gei drysor yn y nef: a thyred, a chymmer i fynu y groes, a dilyn fi.

22 Ac efe a bruddhaodd wrth yr ymadrodd, ac a aeth ymaith yn athrist: canys yr oedd ganddo feddiannau lawer.

23 ¶ A'r Iesu a edrychodd o'i amgylch, ac a ddywedodd wrth ei ddisgyblion, Mor anhawdd yr â y rhai y mae golud ganddynt i deyrnas Dduw!

24 A'r disgyblion a frawychasant wrth ei eiriau ef. Ond yr Iesu a attebodd drachefn, ac a ddywedodd wrthynt, O blant, mor anhawdd yw i'r rhai sydd a'u hymddiried yn eu golud fyned i deyrnas Dduw!

25 Y mae yn haws i gamel fyned trwy grai y nodwydd, nag i oludog fyned i mewn i deyrnas Dduw.

26 A hwy a synnasant yn ddirfawr, gan ddywedyd wrthynt eu hunain, A phwy a all fod yn gadwedig?

27 A'r Iesu, wedi edrych arnynt, a ddywedodd, Gyd â dynion ammhosibl yw, ac nid gyd a Duw: canys pob peth sydd bosibl gyd â Duw.

28 Yna y dechreuodd Petr ddywedyd wrtho, Wele, nyni a adawsom bob peth, ac a'th ddilynasom di.

29 A'r Iesu a attebodd ac a ddywedodd, Yn wir meddaf i chwi, Nid oes neb a'r a adawodd dŷ, neu frodyr, neu chwïorydd, neu dad, neu fam, neu wraig, neu blant, neu diroedd, o'm hachos i a'r efengyl,

30 A'r ni dderbyn y cán cymmaint yr awrhon y pryd hwn, dai, a brodyr,achwiorydd, a mammau, a phlant, a thiroedd, ynghyd âg erlidiau; ac yny byd a ddaw, fywyd tragywyddol.

31 Ond llawer rhai cyntaf a fyddant ddiweddaf; a'r diweddaf fyddant gyntaf.

32 Ac yr oeddynt ar y ffordd yn myned i fynu i Jerusalem; ac yr oedd yr Iesu yn myned o'u blaen hwynt: a hwy a frawychasant; ac fel yr oeddynt yn canlyn, yr oedd arnynt ofn. Ac wedi iddo drachefn gymmeryd y deuddeg, efe a ddechreuodd fynegi iddynt y pethau a ddigwyddent iddo ef:

33 Canys wele, yr ydym ni yn myned i fynu i Jerusalem; a Mab y dyn a draddodir i'r arch-offeiriaid, ac i'r ysgrifenyddion; a hwy a'i condemniant ef i farwolaeth, ac a'i traddodant ef i'r Cenhedloedd:

34 A hwy a'i gwatwarant ef, ac a'i fflangellant, ac a boerant arno, ac a'i lladdant: a'r trydydd dydd yr adgyfyd.

35 A daeth atto Iago ac Ioan, meibion Zebedeus, gan ddywedyd, Athraw, ni a fynnem wneuthur o honot i ni yr hyn a ddymunem.

36 Yntau a ddywedodd wrthynt, Beth a fynnech i mi ei wneuthur i chwi?

37 Hwythau a ddywedasant wrtho, Caniatta i ni eistedd, un ar dy ddeheulaw, a'r llall ar dy aswy, yn dy ogoniant.

38 Ond yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Ni wyddoch pa beth yr ydych yn ei ofyn: a ellwch chwi yfed o'r cwppan yr wyf fi yn ei yfed? a'ch bedyddio â'r bedydd y'm bedyddir i âg ef?