39 A hwy a ddywedasant wrtho, Gallwn. A'r Iesu a ddywedodd wrthynt, Diau yr yfwch o'r cwppan yr yfwyf fi; ac y'ch bedyddir a'r bedydd y bedyddir finnau:
40 Ond eistedd ar fy neheulaw a'm haswy, nid eiddof fi ei roddi; ond i'r rhai y darparwyd.
41 A phan glybu y deg, hwy a ddechreuasant fod yn anfoddlawn ynghylch Iago ac Ioan.
42 A'r Iesu a'u galwodd hwynt atto, ac a ddywedodd wrthynt, Chwi a wyddoch fod y rhai a dybir eu bod yn llywodraethu ar y Cenhedloedd, yn tra-arglwyddiaethu arnynt; a'u gwŷr mawr hwynt yn tra-awdurdodi arnynt.
43 Eithr nid felly y bydd yn eich plith chwi ond pwy bynnag a ewyllysio fod yn fawr yn eich plith, bydded weinidog i chwi;
44 A phwy bynnag ohonoch a fynno fod yn bennaf, bydded was i bawb.
45 Canys ni ddaeth Mab y dyn i'w wasanaethu, ond i wasanaethu, ac i roi ei einioes yn bridwerth dros lawer.
46 ¶ A hwy a ddaethant i Jericho. Ac fel yr oedd efe yn myned allan o
Jericho, efe a'i ddisgyblion, a bagad o bobl, Bartimëus ddall, mab Timëus, oedd yn eistedd ar fin y ffordd, yn cardotta.
47 A phan glybu mai yr Iesu o Nazareth ydoedd, efe a ddechreuodd lefain, a dywedyd, Iesu, mab Dafydd, trugarha wrthyf.
48 A llawer a'i ceryddasant ef, i geisio ganddo dewi: ond efe a lefodd yn fwy o lawer, Mab Dafydd, trugarhâ wrthyf.
49 A'r Iesu a safodd, ac a archodd ei alw ef. A hwy a alwasant y dall, gan ddywedyd wrtho, Cymmer galon; cyfod: y mae efe yn dy alw di.
50 Ond efe, wedi taflu ei gochl ymaith, a gyfododd, ac a ddaeth at yr Iesu.
51 A'r Iesu a attebodd ac a ddywedodd wrtho, Beth a fynni i mi ei wneuthur i ti? A'r dall a ddywedodd wrtho, Athraw, caffael o honof fy ngolwg.
52 A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Dos ymaith: dy ffydd a'th iachaodd. Ac yn y man y cafodd efe ei olwg, ac efe a ddilynodd yr Iesu ar hyd y ffordd.
PENNOD XI.
1 Crist yn marchogaeth mewn goruchaflaeth i Jerusalem: 12 yn melldithio y pren deiliog diffrwyth: 15 yn glanhau y deml: 20 yn annog ei ddisgyblion i fod yn ddisigl mewn ffydd; ac i faddeu i'w gelynion: 27 ac yn amddiffyn fod ei weithredoedd ef yn gyfreithlawn, trwy dystiolaeth Ioan, yr hwn oedd wr wedi ei ddanfon oddi wrth Dduw.
AC wedi eu dyfod yn agos i Jerusalem, i Bethphage a Bethania, hyd fynydd yr Olewwydd, efe a anfonodd ddau o'i ddisgyblion,
2 Ac a ddywedodd wrthynt, Ewch ymaith i'r pentref sydd gyferbyn â chwi ac yn y man wedi y deloch i mewn iddo, chwi a gewch ebol wedi ei rwymo, ar yr hwn nid eisteddodd neb; gollyngwch ef yn rhydd, a dygwch ymaith.
3 Ac os dywed neb wrthych, Paham y gwnewch hyn? dywedwch, Am fod yn rhaid i'r Arglwydd wrtho; ac yn ebrwydd efe a'i denfyn yma.
4 A hwy a aethant ymaith, ac a gawsant yr ebol yn rhwym wrth y drws oddi allan, mewn croes-ffordd; ac a'i gollyngasant ef yn rhydd.