Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Testament Newydd (1894).djvu/78

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

5 A rhai o'r rhai oedd yn sefyll yno a ddywedasant wrthynt, Beth a wnewch chwi, yn gollwng yr ebol yn rhydd?

6 A hwy a ddywedasant wrthynt fel y gorchymynasai yr Iesu: a hwy a adawsant iddynt fyned ymaith.

7 A hwy a ddygasant yr ebol at yr Iesu, ac a fwriasant eu dillad arno; ac efe a eisteddodd arno.

8 A llawer a daenasant eu dillad ar hyd y ffordd; ac eraill a dorrasant gangau o'r gwydd, ac a'u taenasant ar y ffordd.

9 A'r rhai oedd yn myned o'r blaen, a'r rhai oedd yn dyfod ar ol, a lefasant, gan ddywedyd, Hosanna; Bendigedig fyddo yr hwn sydd yn dyfod yn enw yr Arglwydd:

10 Bendigedig yw y deyrnas sydd yn dyfod yn enw Arglwydd ein tad Dafydd: Hosanna yn y goruchaf.

11 A'r Iesu a aeth i mewn i Jerusalem, ac i'r deml: ac wedi iddo edrych ar bob peth o'i amgylch, a hi weithian yn hwyr, efe a aeth allan i Bethania gyd â'r deuddeg.

12 A thrannoeth, wedi iddynt ddyfod allan o Bethania, yr oedd arno chwant bwyd.

13 Ac wedi iddo ganfod o hirbell ffigysbren ag arno ddail, efe a aeth i edrych a gaffai ddim arno. A phan ddaeth atto, ni chafodd efe ddim ond y dail: canys nid oedd amser ffigys.

14 A'r Iesu a attebodd ac a ddywedodd wrtho, Na fwyttâed neb ffrwyth o honot byth mwy. A'i ddisgyblion ef a glywsant.

15 ¶ A hwy a ddaethant i Jerusalem. A'r Iesu a aeth i'r deml, ac a ddechreuodd fwrw allan y rhai a werthent ac a brynent yn y deml; ac a ymchwelodd drestlau yr arianwyr, a chadeiriau y gwerthwyr colommenod:

16 Ac ni adawai efe i neb ddwyn llestr trwy y deml.

17 Ac efe a'u dysgodd, gan ddywedyd wrthynt, Onid yw yn ysgrifenedig, Y gelwir fy nhŷ i yn dy gweddi i'r holl genhedloedd? ond chwi a'i gwnaethoch yn ogof lladron.

18 A'r ysgrifenyddion a'r archoffeiriaid a glywsant hyn, ac a geisiasant pa fodd y difethent ef: canys yr oeddynt yn ei ofni ef, am fod yr holl bobl yn synnu oblegid ei athrawiaeth ef.

19 A phan aeth hi yn hwyr, efe a aeth allan o'r ddinas.

20 ¶ A'r bore, wrth fyned heibio, hwy a welsant y ffigysbren wedi crino o'r gwraidd.

21 A Phetr, wedi adgofio, a ddywedodd wrtho, Athraw, wele y ffigysbren a felldithiaist, wedi crino.

22 A'r Iesu a attebodd ac a ddywedodd wrthynt, Bydded gennych ffydd yn Nuw:

23 Canys yn wir yr wyf yn dywedyd i chwi, Pwy bynnag a ddywedo wrth y mynydd hwn, Tynner di ymaith, a bwrier di i'r môr; ac nid ammheuo yn ei galon, ond credu y daw i ben y pethau a ddywedo efe; beth bynnag a ddywedo, a fydd iddo.

24 Am hynny meddaf i chwi, Beth bynnag oll a geisioch wrth weddïo, credwch y derbyniwch, ac efe fydd i chwi.

25 A phan safoch i weddïo, maddeuwch, o bydd gennych ddim yn erbyn neb; fel y maddeuo eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd i chwithau eich camweddau:

26 Ond os chwi ni faddeuwch, eich Tad yr hwn sydd yn