Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Testament Newydd (1894).djvu/85

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

29 Ond Petr a ddywedodd wrtho, Pe byddai pawb wedi eu rhwystro, etto ni byddaf fi.

30 A dywedodd yr Iesu wrtho, Yn wir yr ydwyf yn dywedyd i ti, Heddyw, o fewn y nos hon, cyn canu o'r ceiliog ddwywaith, y gwedi fi deirgwaith.

31 Ond efe a ddywedodd yn helaethach o lawer, Pe gorfyddai i mi farw gyd â thi, ni'th wadaf ddim. A'r un modd y dywedasant oll.

32 A hwy a ddaethant i le yr oedd ei enw Gethsemane: ac efe a ddywedodd wrth ei ddisgyblion, Eisteddwch yma, tra fyddwyf yn gweddïo.

33 Ac efe a gymmerth gyd âg ef Petr, ac Iago, ac Ioan, ac a ddechreuodd ymofidio, a thristâu yn ddirfawr.

34 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Y mae fy enaid yn athrist hyd angau arhoswch yma, a gwyliwch.

35 Ac efe a aeth ychydig ym mlaen, ac a syrthiodd ar y ddaear, ac a weddïodd, o bai bosibl, ar fyned yr awr honno oddi wrtho.

36 Ac efe a ddywedodd, Abba, Dad, pob peth sydd bosibl i ti: tro heibio y cwppan hwn oddi wrthyf: eithr nid y peth yr ydwyf fi yn ei ewyllysio, ond y peth yr ydwyt ti.

37 Ac efe a ddaeth, ac a'u cafodd hwy yn cysgu; ac a ddywedodd wrth Petr, Simon, ai cysgu yr wyt ti? oni allit wylio un awr?

38 Gwyliwch a gweddïwch, rhag eich myned mewn temtasiwn. Yr yspryd yn ddïau sydd barod, ond y cnawd sydd wan.

39 Ac wedi iddo fyned ymaith drachefn, efe a weddïodd, gan ddywedyd yr un ymadrodd.

40 Ac wedi iddo ddychwelyd, efe a'u cafodd hwynt drachefn yn cysgu; canys yr oedd eu llygaid hwynt wedi trymhâu: ac ni wyddent beth a attebent iddo.

41 Ac efe a ddaeth y drydedd waith, ac a ddywedodd wrthynt, Cysgwch weithian, a gorphwyswch: digon yw; daeth yr awr: wele, yr ydys yn bradychu Mab y dyn i ddwylaw pechaduriaid.

42 Cyfodwch, awn; wele, y mae yr hwn sydd yn fy mradychu yn agos.

43 Ac yn y man, ac efe etto yn llefaru, daeth Judas, un o'r deuddeg, a chyd âg ef dyrfa fawr â chleddyfau a ffyn, oddi wrth yr arch-offeiriaid, a'r ysgrifenyddion, a'r henuriaid.

44 A'r hwn a'i bradychodd ef aroddasai arwydd iddynt, gan ddywedyd, Pwy bynnag a gusanwyf, hwnnw yw: deliwch ef, a dygwch ymaith yn sicr.

45 A phan ddaeth, yn ebrwydd efe a aeth atto, ac a ddywedodd, Rabbi, Rabbi; ac a'i cusanodd ef.

46 A hwythau a roisant eu dwylaw arno, ac a'i daliasant ef.

47 A rhyw un o'r rhai oedd yn sefyll ger llaw, a dynnodd ei gleddyf, ac a darawodd was yr arch-offeiriad, ac a dorrodd ymaith ei glust ef.

48 A'r Iesu a attebodd ac a ddywedodd wrthynt, Ai megis at leidr y daethoch allan, â chleddyfau ac â ffyn, i'm dala i?

49 Yr oeddwn i beunydd gyd â chwi yn athrawiaethu yn y deml, ac ni'm daliasoch: ond rhaid yw cyflawni yr ysgrythyrau.

50 A hwynt oll a'i gadawsant ef, ac a ffoisant.