51 A rhyw wr ieuangc oedd yn ei ddilyn ef, wedi ymwisgo â llïan main ar ei gorph noeth; a'r gwŷr ieuaingc a'i daliasant ef.
52 A hwn a adawodd y llïan, ac a ffodd oddi wrthynt yn noeth.
53 ¶ A hwy a ddygasant yr Iesu at yr arch-offeiriad: a'r holl archoffeiriaid, a'r henuriaid, a'r ysgrifenyddion, a ymgasglasant gyd ag ef.
54 A Phetr a'i canlynodd ef o hirbell, hyd yn llys yr arch-offeiriad; ac yr oedd efe yn eistedd gyd â'r gwasanaethwyr, ac yn ymdwymno wrth y tân.
55 A'r arch-offeiriaid a'r holl gynghor a geisiasant dystiolaeth yn erbyn yr Iesu, i'w roi ef i'w farwolaeth; ac ni chawsant.
56 Canys llawer a ddygasant gaudystiolaeth yn ei erbyn ef; eithr nid oedd eu tystiolaethau hwy yn gysson.
57 A rhai a gyfodasant ac a ddygasant gam-dystiolaeth yn ei erbyn, gan ddywedyd,
58 Ni a'i clywsom ef yn dywedyd, Mi a ddinystriaf y deml hon o waith dwylaw, ac mewn tridiau yr adeiladaf arall heb fod o waith Ilaw.
59 Ac etto nid oedd eu tystiolaeth hwy felly yn gysson.
60 A chyfododd yr arch-offeiriad yn y canol, ac a ofynodd i'r Iesu, gan ddywedyd, Oni attebi di ddim? beth y mae y rhai hyn yn ei dystiolaethu yn dy erbyn?
61 Ac efe a dawodd, ac nid attebodd ddim. Drachefn yr arch-offeiriad a ofynodd iddo, ac a ddywedodd wrtho, Ai tydi yw Crist, Mab y Bendigedig?
62 A'r Iesu a ddywedodd, Myfi yw: a chwi a gewch weled Mab y dyn yn eistedd ar ddeheulaw y gallu, ac yn dyfod y'nghymmylau y nef.
63 Yna yr arch-offeiriad, gan rwygo ei ddillad, a ddywedodd, Pa raid i ni mwy wrth dystion?
64 Chwi a glywsoch y gabledd: beth dybygwch chwi? A hwynt oll a'i condemniasant ef, ei fod yn euog o farwolaeth.
65 A dechreuodd rhai boeri arno, a chuddio ei wyneb, a'i gernodio; a dywedyd wrtho, Prophwyda. A'r gweinidogion a'i tarawsant ef â gwïail.
66 Ac fel yr oedd Petr yn y llys i waered, daeth un o forwynion yr arch-offeiriad:
67 A phan ganfu hi Petr yn ymdwymno, hi a edrychodd arno, ac a ddywedodd, Tithau hefyd oeddit gyd â'r Iesu o Nazareth.
68 Ac efe a wadodd, gan ddywedyd, Nid adwaen i, ac ni wn i beth yr wyt yn ei ddywedyd. Ac efe a aeth allan i'r porth; a'r ceiliog a ganodd.
69 A phan welodd y llangces ef drachefn, hi a ddechreuodd ddywedyd wrth y rhai oedd yn sefyll yno, Y mae hwn yn un o honynt.
70 Ac efe a wadodd drachefn. Ac ychydig wedi, y rhai oedd yn sefyll ger llaw a ddywedasant wrth Petr drachefn, Yn wir yr wyt ti yn un o honynt; canys Galilead wyt, a'th leferydd sydd debyg.
71 Ond efe a ddechreuodd regu a thyngu, Nid adwaen i y dyn yma yr ydych chwi yn dywedyd am dano.
72 A'r ceiliog a ganodd yr ail waith. A Phetr a gofiodd y gair a ddywedasai yr Iesu wrtho, Cyn canu o'r ceiliog ddwywaith, ti a'm gwedi deirgwaith. A chan ystyried hynny, efe a wylodd.