Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Testament Newydd ein Harglwydd a'n Hiachawdwr Iesu Grist.djvu/11

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

orchymyn i'w angylion am danat; a hwy a'th ddygant yn eu dwylo, rhag taro ohonot un amser dy droed wrth garreg.

7 Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Ysgrifennwyd drachefn, Na themtia yr Arglwydd dy Dduw.

8 Trachefn y cymmerth diafol ef i fynydd tra uchel, ac a ddangosodd iddo holl deyrnasoedd y byd, a'u gogoniant;

9 Ac a ddywedodd wrtho, Hyn oll a roddaf i ti, os syrthi i lawr a'm haddoli i.

10 Yna yr Iesu a ddywedodd wrtho, Ymaith, Satan; canys ysgrifennwyd, Yr Arglwydd dy Dduw a addoli, ac ef yn unig a wasanaethi.

11 Yna y gadawodd diafol ef: ac wele, angylion a ddaethant, ac a weiniasant iddo.

12 ¶ A phan glybu'r Iesu draddodi Ioan, efe a aeth i Galilea.

13 A chan adaw Nazareth, efe a aeth ac a arhosodd yn Capernaum, yr hon sydd wrth y môr, y'nghyffiniau Zabulon a Nephthali:

14 Fel y cyflawnid yr hyn a ddywedwyd trwy Eseias y proffwyd, gan ddywedyd,

15 Tir Zabulon, a thir Nephthali, wrth ffordd y môr, tu hwnt i'r Iorddonen, Galilea'r Cenhedloedd:

16 Y bobl oedd yn eistedd mewn tywyllwch, a welodd oleuni mawr; ac i'r rhai a eisteddent ym mro a chysgod angau, y cyfododd goleuni iddynt.

17 ¶ O'r pryd hwnnw y dechreuodd yr Iesu bregethu, a dywedyd, Edifarhêwch: canys nesaodd teyrnas nefoedd.

18 ¶ A'r Iesu yn rhodio wrth fôr Galilea, efe a ganfu ddau frodyr, Simon, yr hwn a elwir Petr, ac Andreas ei frawd, yn bwrw rhwyd i'r môr; canys pysgodwyr oeddynt:

19 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Deuwch ar fy ol i, a mi a'ch gwnaf yn bysgodwyr dynion.

20 A hwy yn y fan, gan adael y rhwydau, a'i canlynasant ef.

21 Ac wedi myned rhagddo oddi yno, efe a welodd ddau frodyr eraill, Iago fab Zebedeus, ac Ioan ei frawd, mewn llong gyd â Zebëdeus eu tad, yn cyweirio eu rhwydau; ac a'u galwodd hwy.

22 Hwythau yn ebrwydd, gan adael y llong a'u tad, a'i canlynasant ef.

23 ¶ A'r Iesu a aeth o amgylch holl Galilea, gan ddysgu yn eu synagogau, a phregethu efengyl y deyrnas, ac iachâu pob clefyd a phob afiechyd ymhlith y bobl.

24 Ac aeth sôn amdano ef trwy holl Syria; a hwy a ddygasant ato yr holl rai drwg eu hwyl, a'r rhai yr oedd amryw glefydau a chnofeydd yn eu dala, a'r rhai cythreulig, a'r rhai lloerig, a'r sawl oedd a'r parlys arnynt; ac efe a'u hiachaodd hwynt.

25 A thorfeydd lawer a'i canlynasant ef o Galilea, a Decapolis, a Jerwsalem, a Jwdea, ac o'r tu hwnt i'r Iorddonen.

PENNOD V.

1 Crist yn dechreu ei bregeth ar y mynydd; 3 ac yn dangos pwy sydd ddedwydd, 13 pwy yw halen y ddaear, 14 goleuni y byd, dinas ar fryn, 15 y ganwyll: 17 ei ddyfod ef i gyflawni y gyfraith. 21 Beth yw lladd, 27 a godinebu, 33 a thyngu. 38 Y mae yn annog i ddioddef cam, 43 i garu, ie, ein gelynion, 48 ac i ymegnio berffeithrwydd.

1 A PHAN welodd yr Iesu y tyrfaoedd, efe a esgynnodd i'r mynydd: ac wedi iddo eistedd, ei ddisgyblion a ddaethant atto.

2 Ac efe a agorodd ei enau, ac a'u dysgodd hwynt, gan ddywedyd,

3 Gwỳn eu byd y tlodion yn yr ysbryd: canys eiddynt yw teyrnas nefoedd.

4 Gwỳn eu byd y rhai sydd yn galaru: canys hwy a ddiddenir.

5 Gwỳn eu byd y rhai addfwyn: canys hwy a etifeddant y ddaear.

6 Gwỳn eu byd y rhai sydd arnynt newyn a syched am gyfiawnder: canys hwy a ddiwellir.

7 Gwỳn eu byd y rhai trugarogion: canys hwy a gânt drugaredd.

8 Gwỳn eu byd y rhai pur o galon: canys hwy a welant Dduw.

9 Gwỳn eu byd y tangnefeddwyr: canys hwy a elwir yn blant i Dduw.

10 Gwỳn eu byd y rhai a erlidir o