Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Teulu Bach Nantoer.djvu/13

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD II

SAFAI Nantoer yn agos i'r ffordd fawr a arweinia o orsaf Llanerw i draeth Glanywerydd. Man unig iawn oedd. Nid oedd tŷ yn agos, er nad oedd ond taith deng munud i'r briffordd. Yr oedd llawer o deithio rhwng yr orsaf a'r traeth. Ddwywaith yn y dydd, haf a gaeaf, âi'r fen fawr heibio, weithiau ag un neu ddau ynddi, ac ar rai adegau o'r flwyddyn, yn cludo llwyth llawn o bobl. Heblaw y fen fawr, yr oedd tyrfa arall o gerbydau yn mynd yn ôl a blaen bob dydd. Dygid yr ardal fechan bell hon, felly, i gysylltiad â'r byd mawr oddi allan,

Safai'r tŷ ar lethr. O'i flaen ymestynnai'r ddau gae bychan a berthynai i'r tyddyn, ac ar waelod y rhai hyn rhedai afonig fechan wyllt i gwrdd â'r Gwynli yn is i lawr yn y dyffryn. Y" Nant oer" hon a roddai ei henw i'r lle. Un cae bychan serth oedd y tu ôl i'r tŷ, ac yna, y rhos-yr eang ros ym mhobman. A'r tu hwnt i'r rhos, ar y gorwel pell, gwenai'n fawreddog fae glas Aberteifi. O ben y rhos, ar ddiwrnod clir, gellid gweld y bae i gyd, o Ynys Enlli a Chader Idris yn y gogledd i lawr